Cyfweliad gydag Andrea Rowe rhan 2, 2024
Disgrifiadau
Cyfweliad gydag Andrea Rowe, ecolegydd a swyddog prosiect ym mhrosiect y Fritheg Frown, sydd â chysylltiad teuluol dwfn â Saint-y-brid a'r cyffiniau. Mae hi'n siarad am golli’r cynefin a bioamrywiaeth y mae hi wedi'i weld yn lleol, a sut mae prosiect y Fritheg Frown yn bwriadu ymateb. Cynhaliwyd y cyfweliad ar 10 Medi 2024 gan Bettina Furnée, fel rhan o'i chyfnod preswyl fel artist ar gyfer Natur Am Byth gyda phrosiect y Fritheg Frown, Bro Morgannwg. Cyfwelodd Bettina â gwirfoddolwyr, ecolegwyr a phobl gyffredin sy'n cynnal Old Castle Down fel cynefin olaf y Fritheg Frown yng Nghymru. Y sgyrsiau hyn yw ffynhonnell yr artist ar gyfer geiriau Britheg Brown, galwad i'r glöyn byw, wedi'i gosod i gerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Gymru, Emma Daman Thomas. Bydd cantorion lleol yn perfformio'r gân ar gyfer ffilm ar Old Castle Down mewn cydweithrediad â chôr Ysgol Gynradd Saint-y-brid, siaradwyr a thelynor.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment