Skip to main content

Hanes Blaenau Tywi

Ffurfiwyd grŵp o wirfoddolwyr i weithredu’r prosiect Enwau Caeau a Ffermydd Blaenau Tywi sydd bellach wedi eu gwblhau.  Mae’r gwybodaeth a gasglwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf yn cynnwys enwau caeau, dyfyniadau o gofnodion Ystâd, damweiniau trasig a bywyd cymunedol yn gyffredinol fel y cofnodwyd mewn adroddiadau yn y wasg o'r cyfnod Fictoraidd.  Nodwyd nifer o ddylanwadau hanesyddol o’r ardal gan gynnwys Cairns, hefyd Cylch Cerrig o oedran cyn Cristnogol; olion Rhufeinig yr ardal; cysylltiadau Canol Oesoedd gydag Ystrad Fflur; y Gweithfeydd Plwm yn Rhandir-mwyn; y cynnwrf Methodistaidd; terfysgoedd Rebecca; coedwigo yn y bryniau; y frwydr i achub y Barcud Coch; Llyn Brianne a llawer o ddigwyddiadau eraill sydd wedi gadael eu h’ol ar fro Blaenau Tywi.  Mae yna hefyd gasgliad gwerthfawr o ddelweddau o ffermydd a bythynnod yr ardal sydd wedi cael eu casglu yn ystod y cyfnod hwn. 
 
Bellach, gellir gweld y gwaith hwn ar ffurf newydd sef wrth fynd ar-lein.  Mae'r wefan yn cynnwys deunydd na chafwyd eu chynnwys yn y llyfr.  Y gobaith ydy i fwydo gwybodaeth mwy newydd i mewn i'r safle wrth i’r wybodaeth hyn ddod i law.
 
I cael mynediad i'r wefan, ewch i:-   http://www.hanesblaenautywi.co.uk/   
Profile picture for user penyfedw
Dyddiad Ymuno:
04/03/2015

Gweld pob eitem