Blaenau Tywi: enwau yn y tirwedd
Paratowyd y gyfrol hon am ffermydd ac enwau caeau Blaenau Tywi gan wirfoddolwyr o Grwp Hanes Blaenau Tywi yn ystod 2012-13. Sbardunwyd y prosiect gan y teimlad fod enwau caeau'r ardal yn cael eu diystyru a'u hangofio am taw rhifau bellach a ddefnyddir i gofnodi caeau, a hefyd am fod y nifer gynyddol o bobl ddi-Gymraeg sy'n symud i'r gymdogaeth heb fodd i werthfawrogi cyfoeth yr enwau. Ein nod oedd atgyfodi'r hen enwau er mwyn iddynt lefaru unwaith eto a throsglwyddo negesau o'r gorffennol. Dywedir bod enw wedi'i i roi i bob darn o dir a gafodd ei ddefnyddio ledled y byd. Newidiodd llawer o'r enwau hyn gyda threigl amser, ac aeth enwau dirifedi yn angof. Ym Mlaenau Tywi, yr un fath ag mewn ardaloedd gwledig eraill yng Nghymru, mae gennym gyfoeth o enwau caeau. Mae'r rhain yr un mor bwysig ag unrhyw nodwedd hanesyddol neu archaeolegol o ran creu darlun unigryw o'r tir a'r bobl a fu'n troedio'r erwau hynny dros y canrifoedd. Fodd bynnag, am resymau gwahanol, mae'r defnydd o enwau caeau ar drai ac mae'n hollbwysig eu diogelu ar frys.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment