Skip to main content

Datgloi Ein Treftadaeth Sain / Unlocking Our Sound Heritage

Prosiect pum mlynedd yw Datgloi Ein Treftadaeth Sain, sy’n cael ei arwain gan y Llyfrgell Brydeinig a’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Pwrpas y prosiect yw amddiffyn casgliadau sain prin ac unigryw drwy eu digido. LLGC yw un o’r 10 Canolfan rhwydweithio Cadwraeth Sain sydd wedi eu sefydlu ar draws y Deyrnas Unedig i ddelio gyda’r bygythiad sy’n wynebu recordiadau sain. Yr Hybiau eraill yw:
Archives+, Cyngor Tref Manceinion
Bristol Culture
Archifau Metropolitan Llundain
Llyfrgell Genedlaethol yr Alban
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon
Archifdy Norfolk
The Keep / Prifysgol Sussex
Archifau ac Amgueddfeydd Newcastle
Prifysgol Caerlŷr

Bydd pob hwb yn derbyn nawdd am dair blynedd.  Apwyntiwyd Rheolwr Prosiect, Peiriannydd Cadwraeth Sain a Chatalogydd Sain a bydd Swyddog Hawliau yn ymuno â’r tîm yn 2019. Bydd staff y prosiect yn gyfrifol am ddigido, catalogio a darparu mynediad i 5,000 o eitemau sain allan o gasgliad y Llyfrgell ac o gasgliadau’r partneriaid yng Nghymru. Bydd y recordiadau hyn yn cael eu defnyddio mewn gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu gan godi proffil Archifdai Sain y Deyrnas Unedig.
Profile picture for user bre
Dyddiad Ymuno:
28/02/2014

Gweld pob un o’r 280 eitemau