Skip to main content

Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yw llyfrgell adnau cyfreithiol cenedlaethol Cymru ac mae'n cael ei chynnal dan nawdd Llywodraeth Cymru. Hon yw'r Llyfrgell fwyaf yng Nghymru, gyda dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a'r casgliadau mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a delweddau ffotograffig yng Nghymru. Mae'r Llyfrgell hefyd yn gartref i Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru, Archif Wleidyddol Cymru, Archif Lenyddol Cymru, a'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o bortreadau a phrintiau topograffyddol yng Nghymru.

Dilyn @LLGCymru
Profile picture for user holi_llgc_org_uk
Dyddiad Ymuno:
17/02/2010

Gweld pob un o’r 18,334 eitemau

Deiseb Heddwch Menywod Cymru

Ymunwch ag ymgyrch genedlaethol i drawsgrifio 390,296 o lofnodion a helpu i ddatgelu straeon heb eu hadrodd menywod Cymru a ymgyrchodd dros heddwch.