Skip to main content

Arddangosfeydd LLGC / NLW Exhibitions

Nod gwasanaeth arddangosfeydd y Llyfrgell Genedlaethol yw creu rhaglenni cyhoeddus cyffrous o ansawdd uchel, sy’n cynnwys arddangosfeydd parhaol a rhai dros dro ynghyd â gweithgareddau addysgol a chyflwyniadau cysylltiol.  Trwy arddangos a dehongli amrywiaeth o eitemau rydym yn ceisio adlewyrchu casgliadau’r Llyfrgell a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.  

Mae nifer o wagleoedd arddangos yn y Llyfrgell, gan gynnwys Oriel Gregynog, gwagle arddangos mwyaf Cymru a Hengwrt a adeiladwyd i bwrpas arddangos eitemau cyn-1800; ac mae’r cyfan oll yn ein galluogi i arddangos y casgliadau mewn modd cyfoes, perthnasol a dychmygus ac i rannu’r trysorau gyda chynulleidfa mor eang â phosib.
Am ragor o wybodaeth am ein harddangosfeydd diweddaraf, ewch i Be sy' mlaen.
Profile picture for user arddangosfeydd
Dyddiad Ymuno:
02/02/2016

Gweld pob un o’r 98 eitemau