Cronfeydd Dŵr Llysfaen a Llanisien: Prosiect Atgofion Digidol
Mae llawer wedi’i ysgrifennu a’i gofnodi mewn amrywiaeth o ffurfiau am daith y cronfeydd dŵr o gael eu draenio i ddarparu tir ar gyfer tai arfaethedig i’r ymgyrch lwyddiannus i’w hachub fel adnodd cymunedol.
Mae cryn dipyn yn llai wedi’i gofnodi o ran gwybodaeth hanesyddol am bresenoldeb y cronfeydd dŵr yn yr ardal, eu defnydd ac atgofion unigol a chymunedol o’r gofodau. Penderfynwyd y dylid rhoi prosiect ar waith i lunio ystorfa ddigidol y gellir ei chyrchu o bell, gyda neu heb gefnogaeth gan unigolion a grwpiau sydd â diddordeb yn y gorffennol, y presennol neu'r dyfodol o'r cronfeydd dŵr.
Nod Prosiect Atgofion Digidol y Cronfeydd Dŵr yw cofnodi, storio, a rhannu atgofion, ffotograffau, ac atgofion y gymuned leol am gronfeydd dŵr Llanisien a Llys-faen a’u gwneud ar gael yn rhwydd ar-lein fel adnodd cymunedol. Arweinir y prosiect gan Dŵr Cymru / Welsh Water a Chyfeillion Cronfeydd Dŵr Caerdydd, gyda chefnogaeth Casgliad y Werin Cymru (CyW) a Chymunedau Digidol Cymru.