Skip to main content

Our Stories Project by Chinese In Wales Association

Manylion ‘Ein Straeon’
Arweinir gan y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, Amgueddfa
Genedlaethol Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol; Casgliad y Werin Cymru ac fe ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Nod y prosiect hwn yw cofnodi cyfraniad y Gymuned Tsieineaidd yng Nghymru, tra'n archwilio profiad bywydau’r bobl o deithio i fyd estron ac ymgartrefu ynddo; gwlad newydd gydag iaith wahanol a ffordd arall o fyw yn ogystal ag egwyddorion gweithio gwahanol a hinsawdd wahanol. Mae’r prosiect hwn yn olrhain profiadau da a gwael a wynebwyd gan unigolion a theuluoedd yn ystod eu taith Gymreig ac yn arddangos gwrthrychau gwerthfawr,eitemau sydd wedi bod yn gysur i’w perchnogion yn ystod eu taith.
Profile picture for user info_117071
Dyddiad Ymuno:
26/09/2024
Aelod o:

Gweld pob un o’r 41 eitemau