Skip to main content

Elizabeth and Hilda Brown. Hanesion Cudd: Straeon Heddwch Menywod

Wrth i gymunedau a gwirfoddolwyr trawsysgrifio’r 390,296 o lofnodion yn Neiseb Heddwch Menywod Cymru 1923 i America, mae llawer wedi bod yn cofio ac yn rhannu’r straeon y tu ôl i enwau’r genhedlaeth hon o fenywod gwnaeth hawlio heddwch. Pwy oedden nhw – a pha neges gallai fod ganddyn nhw i ni 100 mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd prosiect ‘Hidden Histories’ dan arweiniad WCIA yn gwahodd pobl ledled Cymru i ddatgelu a rhannu ‘straeon heddwch’ y tu ôl i’r 390,296 o fenywod a lofnododd y Ddeiseb Heddwch – nid dim ond ‘y gwych a’r da’, ond y miloedd o fenywod cyffredin ledled Cymru llofnododd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn hawlio heddwch.

Cyfrannwyd y stori hon a deunydd ategol gan Enid Lewis, a fu’n archwilio hanes ei hen nain a’i nain, Elizabeth and Hilda Brown.

--

Deiseb Glynneath 33/134  

Dyma fy hen famgu a fy mamgu Elizabeth a Hilda Brown oedd yn byw yn Gwynfa, Heathfield Avenue, Newtown, Glynnedd. Roedd Elizabeth yn 47 a Hilda yn 22 yn 1923. Cafodd Elizabeth neu Lizzie, fel oedd hi’n cael ei galw, blentyndod anodd yn colli ei mam yn 6 oed a’i thad yn 17 oed a’r teulu yn cael ei gwahanu. Lizzie oedd yr ail hynaf o 4 plentyn. Priododd Lizzie yn 1899 yn 23 a magu 7 o blant.

Teulu o lowyr oedd y Browns ac yn ôl Census 1921 roedd y tad William Henry a’r tri mab hynaf yn gweithio yn y pwll glo - y bechgyn yn 16, 15 a 13 ac i gyd allan o waith. Dyma lun o’r teulu a dynnwyd tua 1922. Bu’n rhaid i Hilda adael ysgol yn 12 oed i helpi yn y cartref. Priododd Hilda yn 1931 a magu un mab. Collodd ei gwr yn 1934 a bu’n rhedeg siop ar gornel Heathfield Avenue a New Street am nifer o flynyddoedd. Yn ystod yr ail ryfel byd bu’n gweithio yn Ffatri Arfau'r Goron yn Hirwaun oedd yn arbenigo mewn cynhyrchu arfau bach a lle’r oedd nifer o ddamweiniau yn digwydd. Roedd y teulu yn ffyddlon i Gapel Bethania a Hilda i Gapel Addoldy ar ôl priodi.

 

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment