Skip to main content

Adnodd 4: Crewyr a defnyddwyr digidol

Deall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel crëwr a defnyddiwr gwaith creadigol pobl eraill.

 

Cwricwlwm i Gymru

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dinasyddiaeth: 1.3 Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth; 1.4 Ymddygiad ar-lein a seiberfwlio

Oed: 11-16 / Cam Cynnydd: 4 a 5

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gallwch ei ddewis rhannau ohono i wneud eich gwersi eich hun. Mae’n un o gyfres o bedwar adnodd o'r enw  Canllaw hwylus i hawlfraint a metadata.

Adnodd 1: Hawlfraint - Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau digidol

Adnodd 2: Metadata - Chwilio am nodwydd mewn tas wair

Adnodd 3: Cyhoeddi eich cynnwys eich hun gyda metadata

Adnodd 4: Crewyr a defnyddwyr digidol

Pa mor hir a gymer hyn?

Mae'r wers hon yn cynnwys naw tasg a gall gymryd 5 awr i'w cwblhau. Efallai y byddwch am rannu'r wers hon yn nifer o sesiynau llai. Mae rhai tasgau yn addas ar gyfer gwaith cartref.

You must be logged in to leave a comment