Hanes Llafar: Canllaw i Ysgolion
Mae hanes o'n cwmpas ym mhobman. Meddyliwch am eich teulu a'ch cymuned. Mae digon o straeon yno i lenwi llyfrgell. HANES LLAFAR yw enw'r math yma o hanes.
Mae dogfennau a llyfrau yn aml yn canolbwyntio ar bobl a digwyddiadau enwog. Ond nid yw profiad a llais y mwyafrif yn cael ei gofnodi. Mae hanes llafur yn llenwi'r bylchau ac yn rhoi i ni hanes sy'n cynnwys pawb.
Diolch i dechnoleg ddigidol, gall unrhywun gasglu hanesion llafar a'u rhannu gydag eraill. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau digidol a chyfweld wrth ddysgu am hanes. Gall feithrin hyder pobl ifanc a magu parch rhwng cenedlaethau.
Mae'r canllaw wedi'i greu mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Hanes Llafar a Chasgliad y Werin Cymru. Mae'n cynnig cyngor defnyddiol ar gychwyn project hanes llafar yn eich ysgol neu gymuned.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Hanes
Oed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 & 5
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
.
You must be logged in to leave a comment