Skip to main content

Casgliad Project Pontio'r Cenedlaethau Windrush

Mae’r Casgliad hwn yn cyd-fynd â’r adnodd dysgu Astudiaeth Achos Windrush.

Datblygwyd Project Pontio'r Cenedlaethau Windrush gan y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd (ACC) ar y cyd â disgyblion ysgolion lleol, i ymchwilio i fywydau cenhedlaeth Windrush a gyrhaeddodd Gymru o India'r Gorllewin rhwng y 1940au a'r 1970au.

Gobaith y project oedd pontio'r bwlch rhwng cenedlaethau hen ac ifanc, gan ganolbwyntio ar drosglwyddo diwylliant a thraddodiad, a rhannu profiadau am deithio ac ymsefydlu. Mae'n cofnodi cyfraniad rhyfeddol ymfudwyr Du ac o Leiafrifoedd Ethnig i'r DU, yn enwedig yn ardal Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot.

Mae'r project yn dathlu bywydau deg henadur – rhai yn aelodau o genhedlaeth Windrush ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i gymdeithas amlddiwylliannol De Cymru.

Gwelediadau:
2454
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
27/06/2019

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment