Abertawe Oes Fictoria - Pobl a’u Pethau
Pa fath o bethau oedd yng nghartrefi pobl Abertawe ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Mewn amgueddfa, fe welwch bethau oedd gan bobl yn eu cartrefi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae rhai o’r rhain wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth yn y teulu, rhai wedi’u canfod gan archaeolegwyr, rhai wedi’u prynu neu eu benthyg a rhai wedi’u rhoi’n rhodd i’r amgueddfa. Mae rhai’n ymwneud â gwaith pobl, roedd rhai’n cael eu defnyddio yn y cartref, a rhai’n eitemau ar gyfer hamdden.
Mae pethau yn gallu dweud llawer am y ffordd yr oedd pobl yn byw, pa mor dlawd neu gyfoethog yr oeddent a pha fath o ddefnyddiau oedd ar gael. Cawn weld hefyd pa fath o bethau oedd yn cael eu prynu a’u gwerthu, eu defnyddio a’u trysori, a’u taflu neu eu colli gan bobl yn y gorffennol.
Mae’r Gweithgaredd Dysgu hwn yn cynnwys popeth i gynnal sesiwn eich hun yn yr ystafell ddosbarth, a gallwch ei gysylltu â gweithdai i ysgolion yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Hanes
Oed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein cynnwys. Mae’n un o gyfres o 3 am 'Abertawe Oes Fictoria' ar gyfer Cam Cynnydd 3. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
You must be logged in to leave a comment