Skip to main content

Adnodd 3: Cyhoeddi eich cynnwys eich hun gyda metadata

Cyhoeddi casgliad ar Casgliad y Werin Cymru sy’n cynnwys metadata da a gwybodaeth hawlfraint gywir.

 

Cwricwlwm i Gymru

Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Dinasyddiaeth: 1.1. Hunaniaeth, delwedd ac enw da; 1.3 Hawliau digidol, trwyddedu a pherchnogaeth

Rhyngweithio a chydweithio: 2.2 Cydweithio; 2.3 Storio a rhannu

Cynhyrchu: 3.2 Creu; 3.3 Gwerthuso a gwella

Oed: 8-11 / Cam Cynnydd: 3

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr, gan ddefnyddio ein gwefan. Gallwch ei ddewis rhannau ohono i wneud eich gwersi eich hun. Mae’n un o gyfres o bedwar adnodd o'r enw  Canllaw hwylus i hawlfraint a metadata.

Adnodd 1: Hawlfraint - Byddwch yn ymwybodol o’ch hawliau digidol

Adnodd 2: Metadata - Chwilio am nodwydd mewn tas wair

Adnodd 3: Cyhoeddi eich cynnwys eich hun gyda metadata

Adnodd 4: Crewyr a defnyddwyr digidol

Pa mor hir a gymer hyn?

Gallai'r wers hon bara am nifer o oriau gan y bydd angen i bob disgybl sganio delwedd y maent wedi ei chreu, ei huwchlwytho i wefan Casgliad y Werin Cymru ac ychwanegu eu metadata. Efallai y byddwch yn dymuno rhannu'r wers yn sesiynau byrrach.

Gall y gwaith paratoi i'r athro gymryd 1-2 awr (gweler isod), a dylai hyn gael ei gwblhau cyn y wers. Ar ôl i chi wneud hyn, byddwch yn gallu dysgu eich disgyblion sut i ddefnyddio Casgliad y Werin Cymru ar gyfer y wers hon, ac unrhyw brosiectau a wnewch yn y dyfodol.

 

You must be logged in to leave a comment