Skip to main content

Archifau Morgannwg: Cyfoeth a Thlodi yn Oes Fictoria

Dysgwch sut roedd y bobl gyfoethog yn byw yn ne Cymru yn Oes Fictoria, a dysgwch sut roedd pobl dlawd de Cymru’n byw eu bywydau. Dysgwch sut le oedd yr ysgol yn Oes Fictoria, a dysgwch am fywydau gwaith y bobl yn ne Cymru. Darganfyddwch y tai roedd y bobl Fictoraidd yn byw ynddynt, ac am y dodrefn a’r offer yr oeddent yn berchen arnynt.

Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan Archifau Morgannwg gan ddefnyddio ffynonellau fel ffurflenni’r cyfrifiad, mapiau, ffotograffau, llyfrau log ysgol, dyddiaduron a llawer mwy. Ysgrifennwyd y nodiadau athrawon ar gyfer Cam Cynnydd 3, ond mae'r adnodd yn cynnwys deunydd crai a syniadau diddorol all gael eu haddasu ar gyfer Cam Cynnydd 4 neu 5.

 

Cwricwlwm i Gymru

Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Oed: 8-16 / Cam Cynnydd: 3, 4 a 5

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr. Mae’n un o gyfres o 6 adnodd o Archifau Morgannwg. 

.

You must be logged in to leave a comment