Skip to main content

Yr Holocost a Chymru: Hunaniaeth

Mae’r adnodd hwn yn archwilio bywyd ffoaduriaid yng Nghymru ar ôl y rhyfel, a sut y bu iddynt addasu i’w hunaniaeth newydd.

Delwedd uchod: Portrait of an Anglesey Man gan Karel Lek (1929-2000) © Ystâd Karel Lek Credyd y ffotograff: Prifysgol Bangor.

 

Mae'r adnodd yn cynnwys:

I. Canllawiau i Athrawon:

- Beth yw diben, nodau dysgu, a ffocws yr adnodd?
- Pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad y mae'r adnodd yn helpu i'w datblygu?
- Sut y mae'r adnodd yn cefnogi dysgu mewn cyd-destunau lleol (cynefin), cenedlaethol a rhyngwladol?
- Gwybodaeth gefndir am Ystad Fasnachu Trefforest.
- Syniadau a chwestiynau.
- Dolenni i ymchwil a rhagor o wybodaeth.

II. Gweithgareddau i Ddysgwyr:

- Gweithgareddau awgrymedig.


 

Lluniwyd yr adnodd hwn yn wreiddiol yn 2021-22, yn rhan o'r prosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost i ysgolion Cymru' rhwng y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth, a Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC). Cefnogwyd y prosiect trwy garedigrwydd Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig, Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson, Cymdeithas Hanes Iddewig Lloegr  a Sefydliad Garfield Weston.

Fe'i diwygiwyd yn 2024 i weddu i ofynion Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC) a diolch i grant gan Gymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig ac Ymddiriedolaeth Elusennol Charles Wolfson.

 

Cwricwlwm i Gymru

Iecheyd a Lles, Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Oed: 9-14 / Camau Cynnydd: 3 a 4

 

Pecyn Gweithgareddau Dysgu

Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r adnodd hwn.

.

You must be logged in to leave a comment