Windrush Cymru
Adnodd addysg yn rhoi llais i wynebau a hanes Cenhedlaeth Windrush yng Nghymru.
Mae'r adnodd dysgu hwn, a grëwyd gan Amgueddfa Cymru, yn cael ei lywio gan gynnwys a gasglwyd fel rhan o brosiect Race Council Cymru, Windrush Cymru – Our Voices, Our Stories, Our Histories. Mae’r themâu wedi dod i’r amlwg o’r straeon a’r atgofion a rannwyd gan y cyfranogwyr.
Hoffai Amgueddfa Cymru diolch i'r holl henuriaid a theuluoedd Cenhedlaeth Windrush am rannu eu straeon ar gyfer cenedlaethau iau a helpu i gofnodi etifeddiaeth Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.
Awgrymir bod athrawon a dysgwyr yn cymryd amser i fyfyrio mewn projectau ystafell ddosbarth estynedig i ystyried ac ymchwilio i wahanol agweddau, ac effaith etifeddiaeth Windrush. Mae'n bwysig nodi bod Cenhedlaeth Windrush yn arloeswyr ac mae eu presenoldeb yng Nghymru wedi newid ein gwlad fach er gwell ac mewn amryw o ffyrdd.
Mae'r pecyn adnoddau hwn yn cynnwys stori ffuglennol ac adnodd ffeithiol:
Windrush i Gymru: Stori ffuglenol wedi'i seilio ar brofiadau bywyd go iawn. Dilynwch y Teulu Thompson ar eu taith o Jamaica i Drebiwt.
Windrush Cymru: Gallwch chi wrando ar straeon go iawn teuluoedd Windrush a ddaeth i Gymru yn e-lyfr Windrush Cymru. Mae'n cynnwys ffotograffau, archifau sain a thrafodaethau dosbarth thematig.
Cewch fynediad at yr eLyfr ar wefan Amgueddfa Cymru.
Cwricwlwm i Gymru - Cam Cynnydd 3 a 4
Dyniaethau
Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth, ac yn cael eu gweld, eu dehongli a'u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Mae’r adnodd hwn yn darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer eich myfyrwyr.
Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn, gan gynnwys fideo yn amlygu rhai o themâu'r prosciect, a cyfweliadau hanes llafar prosciect Windrush Cymru. Mae mwy o gynnwys am Windrush gan gyfranogwyr eraill Casgliad y Werin i’w gweld yn y Dolenni Cyflym, ac ar y prosciectau a’r cyfranogwyr hyn:
Prosiect Rhwng Cenedlaethau Windrush, Abertawe
Mae straeon rhyfeddol gan gymunedau amrywiol Cymru, cyn ac ar ôl Windrush, i’w gweld yn y pecyn addysg Hanes Pobl Dduon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.
.
Quick Links
Fideo prosiect Windrush Cymru
na Radway. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Laceta Reid. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2021
Errol Alexis. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2021
Edna Henry. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Angela Nation Barnes. Windrush Cymru: Our Voices, Our Stories, Our History 2019
Roma Taylor. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Barbara Paulette Palmer. Windrush Cymru, Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Gaynor Legall. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Franklyn Parris. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Carlton Peets. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Daisy Maynard. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Gwen Hester. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Abraham Lee. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Dave Jackson. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Alexander Broodie. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Raphael Martin. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Grace Baxter. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Sean Wharton. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
Vernesta Cyril OBE. Windrush Cymru: Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes, 2019
You must be logged in to leave a comment