Ysbrydoli'r Ymdrech - Printiau'r Rhyfel Byd Cyntaf
Gwybodaeth am brintiau trawiadol a drefnwyd gan Fiwro Propaganda Rhyfel y Llywodraeth yn 1917. Dewch o hyd i ddolenni yma i ddelweddau digidol o'r printiau, a gweithgaredd digidol.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Celf, Hanes
Oed: 11-16+ / Cam Cynnydd: 4 a 5
Pecyn Gweithgareddau Dysgu
Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan. Gweler y Cysylltiadau Cyflym isod am gynnwys i gyd-fynd â'r Adnodd Dysgu hwn.
Cyfres o brintiau yw The Great War: Britain’s Efforts and Ideals. Cynhyrchwyd y printiau fel propaganda artistig gan lywodraeth Prydain ym 1917, er mwyn ysbrydoli’r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfela ac ailgynnau fflam yr ymdrech. Cyfrannodd deunaw artist eu gwaith, gyda rhai o enwau mwyaf blaenllaw’r cyfnod – yn eu plith Augustus John, George Clausen a Frank Brangwyn. Fel comisiwn gan y llywodraeth, ni chafodd y cyfranwyr ryddid artistig llwyr. Cafodd pob artist ei bwnc penodol ei hun, ac roedd yn rhaid i bob delwedd fodloni’r sensoriaid.
Comisiynwyd y printiau hyn fel propaganda, gyda’r nod penodol o godi ysbryd y werin a dylanwadau ar farn y cyhoedd ynglŷn â’r Rhyfel Byd Cyntaf, ym Mhrydain a thu hwnt. Ym 1917, wedi tair blynedd o frwydro ffyrnig a cholledion enbyd, roedd angen ffordd newydd ar y llywodraeth o gynnal cefnogaeth y cyhoedd i’r rhyfel. Cynlluniwyd y printiau i atgoffa pobl o nod ac amcan y brwydro, ac er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dyletswydd gwladgarol.
Techneg brintio sy’n seiliedig ar yr egwyddor nad yw olew a dŵr yn cymysgu yw lithograffi. Bydd yr artist yn defnyddio defnydd seimllyd i dynnu llun ar arwyneb llyfn – calchfaen fel arfer. Caiff inc ei rolio dros yr wyneb, fydd yn glynu at y darlun a ond nid at y rhannau llaith di-lun. Gosodir papur ar ben y garreg a’i roi drwy’r wasg. Gellir creu effeithiau gwahanol trwy ddefnyddio deunyddiau seimllyd amrywiol i ddarlunio, gan efelychu darlun sialc, pensil neu lun dyfrlliw. Cynhyrchwyd y rhan fwyaf o’r printiau hyn yn y dull ‘trosglwyddo’, gyda darlun ar bapur arbennig yn cael ei drosglwyddo i garreg, yn hytrach na gweithio arni’n uniongyrchol. Gyda lithograff lliw, bydd yr artist yn cychwyn gyda chynllun un lliw ar faen clo. Er mwyn ychwanegu lliwiau eraill, rhaid defnyddio carreg wahanol ag arni’r inc newydd, ac argraffu un ar ben y llall.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth a thasgau yn yr adnoddau. Dilynwch y dolenni i gasgliadau digidol o'r printiau, ac adnoddau Rhyfel Byd Cyntaf eraill.
Arddangosfa Arlein: Dilynwch y dolenni i'r printiau. Gall eich dysgwyr gael golwg ar y printiau, ac yna dewis printiau er mwyn creu casgliad gyda thema neu o'r printiau fwyaf trawiadol er mwyn ceu arddangosfa ar-lein.
Creu Printiau: Uwch-lwythwch eich fersiynau chi o brintiau propaganda, yn trafod y pwnc o'ch dewis chi.
Cynlluniwch, cydweithiwch a pharatowch gyda nifer o raglenni er mwyn ehangu ar y sgiliau cymhwysedd digidol. Gweler y Blwch Offer i athrawon am fwy o wybodaeth.

You must be logged in to leave a comment