Skip to main content

Hwylio’r Môr

gan Charles Pears (1873-1958)

 

Cyflawnodd y llynges fasnachol dasgau allweddol yn ystod y rhyfel, gan gynnwys cefnogi llongau’r llynges, cludo milwyr a chario cyflenwadau hanfodol. Roedd yn beryg bywyd, a mawr fu colledion y fflyd. Yn llun Pears gwelwn y llongau yn eu holl fanylder. Ganwyd Pears yn Pontefract, Swydd Efrog, ac er ei lwyddiant fel darlunydd a lithograffydd, mae’n bennaf enwog am ei forluniau. 

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn swyddog â chomisiwn gyda’r Morlu Brenhinol, a bu’n gweithio fel artist morol swyddogol rhwng 1914 a 1918, ac eto ym 1940. Cafodd hefyd yrfa lwyddiannus fel cynllunydd posteri, gan greu gweithiau i gwmnïau fel trenau tanddaearol Llundain.

Gwelediadau:
1390
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
04/11/2014

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment