Skip to main content

Llyfr o eiddo Hugh Pugh Jones, fferm Pen-y-Bryn, Dyffryn

Disgrifiadau

Mae’r llyfr hwn sy’n dwyn y teitl In Memory of the following Officers, Non-Commissioned Officers and Men of the Welsh Guards yn cofnodi enwau’r holl unigolion 'Who have died in the Service of their Country Since the Formation of the Regiment on 27th February 1915'. Llyfr clawr caled gwyn syml yw’r llyfr, gydag arfbais y gatrawd wedi’i boglynnu mewn gwyrdd ar y clawr.

Ar glawr de’r llyfr mae’r geiriau 'Pt Hugh Pugh Jones No/3081 / Welsh Guards / No/6. Company / 2nd Reserve Batt. / Ranelagh Camp / Barnes.S.W. 13 / London' wedi’u hysgrifennu. Ar waelod y dudalen mae’r dyddiad wedi cael ei gywiro o 'Tachwedd' i 'Chwefror 27, 1918'.

Mae’r clawr a’r tudalennau mewnol wedi’u haddurno’n helaeth mewn pensil â darluniau a sgribliadau blêr plentyn.

Yn ogystal ag enwau milwyr y Gatrawd Gymreig a fu farw, ceir yn y llyfr drefn gwasanaeth sy’n cynnwys darlleniadau o’r Beibl, emynau, 'Hen Wlad Fy Nhadau' yn Gymraeg a Saesneg, ac anthem genedlaethol Prydain.

Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy, wyres Hugh Pugh Jones, a ddaeth â’r ddogfen hon i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei sganio.

Owner:
Hilda Harris, Dyffryn Ardudwy
Crëwr:
Holy Trinity Church, Sloane Street, London
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2018
Eitem wedi’i llwytho:
20/7/2018
Gwelediadau:
1299
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment