Esgid ledr o’r 19eg ganrif ei darganfod yn Nhy’n Coed Isaf, Dylasau
Esgid ledr o’r 19eg ganrif ei darganfod yn Nhy’n Coed Isaf, Dylasau
Disgrifiadau
Cafodd esgid ledr o’r 19eg ganrif ei darganfod wrth adnewyddu simdde yn Nhy’n Coed Isaf, Dylasau, Penmachno ym mis Gorffennaf 1973. Credir bod yr esgid wedi’i defnyddio fel swyn rhag anlwc. Mae rhan o’r lledr uchaf wedi’i dorri, i wella’i nodweddion hudol mae’n bosibl.
Mae dillad wedi’u cuddio’n fwriadol mewn tai wedi cael eu darganfod tu ôl i waliau ac o dan loriau ar hyd a lled y wlad. Yn aml maent yn cael eu darganfod ger drysau, ffenestri a simneiau. Credir bod y dillad hyn – yn aml ag ôl gwisgo arnynt – yn cael eu defnyddio fel swyn i warchod preswylwyr rhag ysbrydion drwg, sy’n esbonio eu safle ger mynedfa’r tŷ.
Cyfeirnod: F75388
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment