Lledr uchaf oedolyn a ddarganfuwyd tu ôl i le tân tŷ yn Llanfachreth, Gwynedd
Lledr uchaf oedolyn a ddarganfuwyd tu ôl i le tân tŷ yn Llanfachreth, Gwynedd
Disgrifiadau
Un o bum esgid (o bum gwahanol bâr) a ddarganfuwyd tu ôl i le tân tŷ yn Llanfachreth, Gwynedd. Mae hwn yn lledr uchaf oedolyn, oedd yr esgidiau eraill yn cynnwys un glocsen, a tair esgid plentyn.
Mae dillad wedi’u cuddio’n fwriadol mewn tai wedi cael eu darganfod tu ôl i waliau ac o dan loriau ar hyd a lled y wlad. Yn aml maent yn cael eu darganfod ger drysau, ffenestri a simneiau. Credir bod y dillad hyn – yn aml ag ôl gwisgo arnynt – yn cael eu defnyddio fel swyn i warchod preswylwyr rhag ysbrydion drwg, sy’n esbonio eu safle ger mynedfa’r tŷ.
Cyfeirnod: F95.8.1
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment