Skip to main content

Gadael Garnedd Llwyd, Ciltalgarth, Capel Celyn, 1961

Disgrifiadau

Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir dau ddyn yn cario drych o Garnedd Llwyd. Lladdwyd trigolion Garnedd Llwyd, Mr. John William Evans a'i wraig Mrs. Mabel Evans, mewn damwain car ger Cerrigydrudion yn fuan wedi i'r ffotograff hwn cael ei dynnu.

Ym 1955, cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl ei bwriad i adeiladu cronfa ddŵr newydd yng Nghwm Tryweryn, gan foddi pentref Capel Celyn, i'r gogledd o dref y Bala. Lansiwyd ymgyrch ddygn i wrthwynebu'r cynlluniau gan drigolion ac awdurdodau lleol, unigolion a sefydliadau cenedlaethol, ond er gwaethaf pob ymdrech ni lwyddwyd i rwystro'r datblygiad ac ar 1 Awst 1957 pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl. Dechreuodd y gwaith ar y safle dair mlynedd yn ddiweddarach ac fe gwblhawyd y cynllun ym mis Awst 1965.

Owner:
The National Library of Wales
Crëwr:
Charles, Geoff
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Copyright Details:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001
Publisher Ref:
GTJ11839
Eitem wedi’i llwytho:
24/7/2009
Date originally created:
1961
Gwelediadau:
2003
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment