Meredydd Evans a 'Llwyd o'r Bryn' (Robert Lloyd), 1 Awst 1960
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles. Yma gwelir Meredydd Evans (b. 1919) yn sgwrsio gyda 'Llwyd o'r Bryn' (Robert Lloyd) (1888-1961). Roedd 'Llwyd o'r Bryn' yn feirniad ac adroddwr eisteddfodol poblogaidd. Cafodd ei eni yng Nghefnddwysarn, Sir Feirionnydd. Ganed Meredydd Evans yn Llanegryn, Sir Feirionnydd, ond fe'i magwyd yn Nhanygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog. Astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Gogledd Cymru, Bangor, cyn symud i Unol Daleithiau America yn y 1950au lle enillodd ddoethuriaeth a dechreuodd ddarlithio ym Mhrifysgol Boston. Ar ôl dychwelyd i Gymru, aeth i weithio i'w hen goleg ym Mangor fel tiwtor oedolion cyn ymuno â BBC Cymru fel Pennaeth Adloniant Ysgafn ym 1963. Daliodd y swydd hon am ddegawd a bu'n gyfrifol am nifer o raglenni hynod boblogaidd, gan gynnwys 'Fo a Fe' a 'Ryan a Ronnie'. Yn ystod ei ddyddiau coleg ym Mangor, roedd Merêd yn aelod o 'Driawd y Coleg' a daeth i amlygrwydd fel canwr, perfformiwr a chyfansoddwr. Mae Merêd a'i wraig, Phyllis Kinney, hefyd yn adnabyddus am eu gwaith ymchwil arloesol i hanes canu gwerin Cymru ac maent wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau ar y pwnc.
Ffynhonnell: Meic Stephens (gol.), 'Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru' (Caerdydd, 1997).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment