Skip to main content

Edith Davies

Mae'r cyfwelai'n cofio digio bod rhaid diffodd y radio am 7yh yn ei thy pan ddechreuodd y teledu. Mae hi'n cofio'r patrwm o gyrraedd adref a'i theulu'n mynd i mewn i un ystafell i wylio teledu a hithau'n mynd i mewn i'r gegin i goginio swper. Roedd yn nabod pobl a laddwyd yn nhrychineb Aberfan a theimlodd fod y darlledu'n cyfleu'r teimlad i'r dim ac yn ei rannu a'r byd.Wrth drafod Streic y Glowyr dywed y gall deledu gynnig barn anghytbwys ac er nad yw'n hoff o streiciau'n gyffredinol mi roedd yn cydymdeimlo a'r glowyr. Roedd ei mam yn pryderu ynglyn a cholli Sianel 4 pan lansiwyd S4C ond mae ei theulu wedi mwynhau ei chael, er bod anawsterau ynghylch ei dderbyn yn Wrecsam.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment