Alan McGowan
Mae'r cyfwelai'n cofio gwylio teledu cynnar mewn ty ffrind, Ni welodd y Coroni am iddo fynd i barti stryd. Roedd yn byw yn Llundain yn ystod trychineb Aberfan ac roedd yr emosiwn yn wirioneddol amlwg yn y darlledu, nid oedd erioed wedi clywed am leoedd yng Nghymru o'r blaen. Cofia chwaraewyr oes aur Rygbi Cymru. Roedd yn rhyfedd i fod yn Sais yn gwylio Cymru'n ennill yng Nghymru. Gwnaeth lansiad S4C wahaniaeth oherwydd roedd yn golygu nad oedd rhaglenni yn Gymraeg mwyach yn ymyrryd a'r BBC. Meddylia'r cyfwelai mai gan Sianel 4 oedd y darlledu gorau am Streic y Glowyr, a theimlai fod y BBC yn portreadu Arthur Scargill fel dihiryn ac ni chafodd tactegau'r heddlu eu trin yn deg.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment