John Gwilym Jones
Disgrifiadau
John Gwilym Jones (1904 -1988). Dramodydd, storïwr a beirniad llenyddol. Fe'i ganed yn Y Groeslon, Caern. Wedi cyfnod fel athro-dan-hyfforddiant, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu'n athro yn Llundain o 1926 hyd 1930 pryd y dechreuodd ymddiddori yn y theatr broffesiynol ac yr oedd yn ymwelydd mynych â'r West End. Wedi dychwelyd i Gymru, bu'n athro yn Llandudno (1930-44), Pwllheli (1944-48), a Phen-y-groes (1948-49), cyn cael ei benodi'n gynhyrchydd dramâu radio gyda'r BBC ym Mangor (1949-53). Yna derbyniodd swydd fel Darlithydd yn Adran y Gymraeg yn ei hen Goleg ym Mangor; yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn Ddarllenydd ac ymddeolodd yn 1971.Y Brodyr (1934) oedd drama gyhoeddedig gyntaf John Gwilym Jones. Yr oedd yn anghyffredin yn y 1930au oherwydd y modd y lleolwyd hi mewn math o limbo, a'r ffaith fod yr awdur yn trafod ei bwnc o ddifrif yn hytrach na cheisio diddanu'n unig. Diofal yw Dim (1942) oedd ei ddrama nesaf ac y mae'n ymwneud - trwy gyfres o naw golygfa - a'r chwerwedd sy'n deillio o lynu'n rhy glos wrth egwyddor. Dramâu teuluol yw Lle Mynno'r Gwynt a Gŵr Llonydd (1958), y ddwy yn ymdrin ag argyfyngau personol dau deulu gwahanol, yr argyfwng a grêwyd gan ddigwyddiadau cyhoeddus a phreifat. Fel adwaith yn erbyn yr hen ddrama gegin Gymreig dewisodd John Gwilym Jones y dramâu hyn i gyflwyno cymeriadau diwylliedig a deallus; heb aberthu un iot ar eu Cymreigrwydd cynhenid, serch hynny y maent yn hunanymwybodol iawn ac yn trafod eu teimladau heb unrhyw atalfa. Y mae dramâu ei gyfnod diweddarach yn gynilach. Dilyna Y Tad a'r Mab (1963) un trywydd pendant yn unig, sef cariad obsesiynol tad at ei fab, a'i ganlyniadau trasig, ond y mae'r ddrama yn arbrofi gyda ffurf a thechneg, ac yn gwneud defnydd mwy cyfrwys o eironi a symbolaeth. At gyfer ei ddrama nesaf, dewisodd yr awdur bwnc hanesyddol, ond y mae Hanes Rhyw Gymro (1964), stori Morgan Llwyd, yn gyfoes yn ei harwyddocâd a'i diddordeb. Gweithiau byrion a ddarlledwyd yn wreiddiol ar radio a theledu yw Pedair Drama (1971). Wrth iddo symud oddi wrth y ddrama naturyddol daeth llwyddiant y technegau Brechtaidd a ddefnyddiodd yn Hanes Rhyw Gymro yn foddion iddo fentro mwy, fel y gwelir yn ei dair drama fer, Rhyfedd y'n Gwnaed (1976), a gafodd rediad llwyddiannus yn Efrog Newydd yn 1980 yng nghyfieithiad Saesneg eu hawdur. Y gwaith sy'n crisialu orau holl athroniaeth a dawn John Gwilym Jones fel dramodydd yw Ac Eto Nid Myfi (1976), drama sy'n gampwaith yn y theatr Gymraeg fodem. Y mae ei ddrama Yr Adduned (1979) hithau'n waith pwysig. Cytunir yn gyffredinol fod John Gwilym Jones, gyda Saunders Lewis, yn un o ddau brif ddramodydd Cymraeg yr ugeinfed ganrif ond y mae ei waith yn gwbl wrthgyferbyniol i eiddo Saunders Lewis mewn amryw ffyrdd. Sylfaen syniadol holl waith John Gwilym Jones yw fod teimlad yn drech na rheswm, ac mai wrth ddygymod â chyfyngiadau bodolaeth y daw Dyn i delerau â hwy yn hytrach na thrwy wrthryfela yn eu herbyn. Ysgrifennodd John Gwilym Jones ddwy nofel hefyd, Y Dewis (1942) a Tri Diwrnod ac Angladd (1979), a chyfrol nodedig o storiâu byrion, Y Goeden Eirin (1946). Yr oedd yn feirniad llenyddol o bwys ac fel darlithydd ym Mangor gwnaeth argraff fawr ar do o fyfyrwyr, trwy ei ddysgu a thrwy ei waith yn y theatr. Ymysg ei weithiau beirniadol pwysicaf y mae'r rheini ar William Williams, Pantycelyn (1969), Daniel Owen (1970), Crefft y Llenor (1977) a Swyddogaeth Beirniadaeth (1977). Ceir astudiaeth o'i waith yn ei gyfrol deyrnged (gol. Gwyn Thomas, 1974); gweler hefyd yr ysgrif gan John Ellis Williams yn Tri Dramaydd Cyfoes (1961), cyfweliad gyda'r awdur yn y cylchgrawn Malian (gol. Gwyn Thomas, 1970) a'r erthyglau gan John Rowlands, 'Agweddau ar Waith John Jones', yn Ysgrifau Beirniadol III (gol.J. E.Caerwyn Williams, 1967), a 'The Humane Existentialist' yn Welsh Books and Writers (Hydref, 1980). Ceir cyfrolau arno gan Marion Wyn Siôn yn y gyfres Bro a Bywyd (1993), gan John Rowlands yn y gyfres Llên y Llenor (1988) a chan William R. Lewis yn y gyfres Writers of Wales (1994); gweler hefyd R. Gerallt Jones, 'The Man from Groeslon', yn Planet (rhif 72, Rhag. 1988/Ion. 1989). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment