Cael Fy Nhraed Odanaf | Wonderbrass 25
Disgrifiadau
Wonderbrass are an internationally acclaimed 25 piece Soul, Funk, Ska, Latin, Jazz juggernaut -- a danceaholic wall of sound -- a kick-ass brass tidal wave -- unmissable!!!!!; Wonderbrass formed in 1992 as a community street band from Pontypridd South Wales. Today they are bigger, bolder and brassier (pun intended) than ever before. Under the expert leadership of instrumentalist and composer Rob Smith and drummer extraordinaire Mark O'Connor, Wonderbrass are constantly evolving and exploring new musical challenges.
Trawsgrifiad fideo Cymraeg: 'Wel, roedd yr ymarfer cyntaf yn Stiwdios y BBC a ro’n i’n nerfus i ddweud y lleiaf. Ro’n i ofn oherwydd doedd dim syniad gyda fi beth i'w ddisgwyl. Do’n i ddim yn nabod neb. Dw i'n cofio meddwl, "O, Duw!” Roedd popeth mor wahanol i unrhyw beth o’n i wedi'i wneud o’r blaen. Eisteddais i yn y car yn aros, ac yn chwilio am focsys offerynnau. Roedd e’n braf iawn, roedd pawb yn wych ac fel, "Dewch i chwarae.” Ro’n i'n swil iawn a do’n i ddim hyd yn oed eisiau codi a rhoi cynnig arni. "Dyna rhai eraill. Dewch ymlaen, mae'n rhaid i ti fynd.” '
'Cerddais i mewn a ro’n i fel, “Ai chi yw Wonderbrass?” "Ie, dewch i ymuno â ni." Ro’n nhw’n gyfeillgar iawn. Yn syth ro’n i wedi gwirioni. Es i’n syth yn ôl yr wythnos nesaf ac roedd hynny bron i ugain mlynedd yn ôl. Fe wnes i setlo i mewn, chwerthin tipyn bach a ro’n i fel, "Mae hyn yn hwyl.” Es i adref yn hapus iawn.'
'Pan ddechreuais i, roedd Wonderbrass yn ymarfer yn nhafarn yr Hollybush ym Mhontypridd. Yn ystafell gefn y dafarn. Roedd hi’n ystafell ryfedd, hir gyda llawer o golofnau yn y canol, felly roedd pawb yn cael eu rhannu. Dw i’n cofio mynd i nôl diod ac yn eistedd ar yr ochr. Wnes i ddim dod â fy sacsoffon i mewn o'r car. Ro’n i fel, "Dw i jyst yn mynd i wylio a gweld dw i’n gallu ei wneud e.” '
'Ar y dechrau, roedd e’n frawychus iawn. Fy ymarfer cyntaf erioed gyda nhw, wnes i ddim hyd yn oed ddod â fy offeryn llawfwrdd oherwydd roedd cymaint o bobl, felly mi wnes i benderfynu gwylio yn gyntaf. Ers i mi ddod i arfer a fe, mae e wedi dod yn llawer haws. Mae e wedi gwneud i mi dyfu mewn ffyrdd o’n i ddim wedi gallu dychmygu, fel cerddor. '
'Ond yna, yn ystod yr egwyl, dw i'n cofio roedd pawb yn awyddus a gyda diddordeb ynddo i. "Dere ymlaen, rydych chi wedi dod â'ch offeryn, man a man i chi fynd i'w nôl e.” '
'Y cyfeillgarwch Wonderbrass hwnnw yw e. Roedd pawb fel, "Cer amdani, mae'n iawn." Cerddais i mewn a ro’n i fel, "Waw, mae'r bobl yma mor wahanol. "Mae yna bobl ifanc, hen bobl, dynion, menywod.” Roedd Rich yn hyfryd iawn ac fel, "Peidiwch â phoeni, ymlaciwch, gwnawn ni’ch helpu chi a dysgu i chi. “ '
'Mae'n brofiad mawr, yn mynd i un o ymarferion Wonderbrass yn eich arddegau. Mae yna gymaint o wahanol offerynnau yn creu sain wych. Lle bynnag rydych chi eisiau sefyll, byddech chi'n tynnu eich offerynnau allan mewn cylch bras o gwmpas yr arweinydd.'
'Dw i’n cofio roedd e’n wers enfawr i fi oherwydd roedd fy mywyd cerddorol wastad wedi bod yn gerddoriaeth glasurol, gyda cherddoriaeth ysgrifenedig. Roedd yn fanwl iawn gyda sgoriau. Rwy'n credu ein bod ni wedi troi i fyny ac am y mwyafrif o’r amser doedd dim sgôr gerddorol felly roedd e’n fwy ar yr ochr jas. Rydych chi'n sylweddoli bod strwythur y darnau ddim bob amser yr un peth a beth sydd ar y papur. Weithiau byddech chi ddim ond yn gweld llinell o lythyrau a dyma oedd y dôn roeddech chi i fod i’w chwarae. Felly cymerodd hi ychydig o amser i ddod i arfer i hynny i gyd ac i wybod pryd oeddech chi i fod i chwarae a phan o’ch chi ddim. Roedd yna hen foi hyfryd o'r enw Howard yn arwain yr adran sacsoffon ar y pryd. Meddai, "Mae hwn wedi ei ysgrifennu i lawr yn rhywle.” Meddyliais i, "Diolch byth.” Daeth e allan gyda cherdyn Nadolig gyda rhai llythyrau wedi'u hysgrifennu arno fe a dywedodd "Dyna ni, dyna hi", "O, iawn, iawn.” Ond roedd hi’n rhyddhad i ddianc oddi wrth y dotiau hynny. Roedd pawb yn gyfeillgar iawn.'
'Roedd merch arall, Nerys, oedd wedi ymuno wythnos neu ddwy cyn fi. Glyn ac Anthony a Steve y ficer oedd yno. Ro’n nhw i gyd wedi bod yn y band am sbel a ro’n nhw’n eithaf medrus ac yn hyfryd iawn. Mae llawer o'r gerddoriaeth yn flêr. Mae un peth wedi cael ei ysgrifennu i lawr, ond os ydych chi wedi bod yno am ddigon hir mae gwybodaeth ddealledig gyda chi ei fod e ddim yn gwneud hynny. Ro’n nhw'n wirioneddol, hyfryd iawn wrth fy nysgu i. Roedd pawb mor gynnes a chroesawgar.'
'Roedd yr awyrgylch yn hyfryd. Teimlais i’n gartrefol yn syth. Roedd yn wych.'
'Ro’n i'n eu nabod nhw tipyn bach. Ro’n i'n eu nabod nhw achos o’n i’n un o'r 'Wonder Widows' ble dych chi’n dod gyda'ch partner ac yn gwylio. Byddwn i'n tynnu lluniau ac yn creu fideos. '
'Roedd pawb yn groesawgar iawn ac fel, "Dewch i drio.” Mae hynny'n gwneud i chi aros o gwmpas, hyd yn oed os dydych chi ddim yn gallu ei wneud e yn syth.'
'Rydych chi'n newydd ac mae'n debyg iawn i garwsél. Rydych chi'n mynd rownd a rownd ac yn ceisio aros ar y ceffyl hwnnw mor hir a ti’n gallu. Roedd e’n anhygoel oherwydd ro’n i wedi bod yng Nghaerdydd am tua chwe mis. Do’n i ddim wir yn nabod llawer o bobl. Ro’n i’n nabod fy nghydletywyr a ro’n i wedi cwrdd â phobl yn y gwaith, ond do’n nhw ddim yn bobl o’n i wedi clicio gyda nhw. Ro’n nhw’n gyfeillgar ond ddim y fath o bobl o’i i eisiau cymdeithasu â nhw mewn gwirionedd. Wedyn dw i'n cofio cerdded i mewn i'r ymarfer cyntaf jyst ar ôl y Nadolig. Ro’n nhw'n arfer ymarfer mewn hen glwb gweithwyr. Gwnaeth Rob alw ar bawb i ddod at ei gilydd a dechreuodd pawb i chwarae. Roedd yn arllwys y glaw tu allan, roedd hi'n noson Ionawr erchyll a dw i'n cofio sefyll yno'n meddwl, "Dw i wedi dod adref.” Ro’n i'n teimlo fel, "Dyma fe, dw i’n ôl ble dw i'n perthyn. “ '
'Beth oedd yn anodd, roedd yna ddarnau roedd pawb yn eu nabod. Mae hi ychydig bach fel trên yn pasio trwy’r orsaf pan rydych chi'n ceisio ei ddal e ond dyw’r trên ddim yn stopio. Mae’n rhuthro trwodd ac mae popeth yn mynd heibio yn gyflym iawn. '
'Dw i’n taflu fy hunan i mewn i beth bynnag sy’n dod ata i mewn bywyd. Roedd yna gwpl o ddarnau newydd yn ystod yr ymarfer hwnnw a phan mae pawb arall gyda rhywbeth newydd rydych chi'n sylweddoli bod e jyst yn fater o ddod i nabod y darnau.'
'Ychydig yn nerfus, sbo, roedd e’n brofiad newydd, rhywbeth gwahanol. Ro’n i wedi chwarae mewn bandiau pres o'r blaen, roedd hyn ychydig bach yn fwy rhydd, sbo. '
'Dw i’n cofio sefyll yno'n mynd, "Does gen i ddim syniad beth sy'n digwydd.” Do’n i erioed wedi chwarae gyda band o'r blaen. Dim ond mewn gwersi gyda fy ffrind.'
'Roedd yr oedrannau’n mynd o 15 i tua 70, ac mae pawb yn cynnig rhywbeth. Rydych chi'n dysgu oddi wrth y chwaraewyr profiadol, felly o safbwynt cymdeithasol, roedd e’n wych. Roedd yna chwaraewyr amrywiol. Mae yna rai chwaraewyr da iawn a hefyd dechreuwyr fel fi. '
'Mae yna chwaraewyr da iawn sy'n aros o gwmpas ac sydd yn hapus i rannu eu gwybodaeth, eu hamynedd a'u dealltwriaeth. Aeth y safonau yn uwch ac yn uwch, gwell ac yn well. Ie, felly rydyn ni i gyd wedi gwella gyda'n gilydd. Dyna sy'n gwneud iddo fe weithio. Mae pobl yn hael gyda’u gwybodaeth a’u hamser. Nerfus, ond positif. Dyna o’n i moyn ei wneud mewn gwirionedd.'
'Roedd e’n fôr o offerynnau a phobl yn y cefndir yn chwarae'n eitha uchel, ond roedd yr awyrgylch yn wych gyda phobl cŵl iawn.'
'Y peth gwych oedd bod pawb mor ymlaciedig. Doedden nhw ddim yn disgwyl llawer wrtha i.'
'Es i bob dydd Mawrth. Ro’n i’n dwlu ar y gerddoriaeth, roedd yna strwythur ond roedd hi’n rhydd ar yr un pryd. A’r cyfeillgarwch, ac i chwarae eto. Roedd e mor galonogol. Roedd e’n wych.'
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment