Popping My Solo Cherry | Wonderbrass 25
Disgrifiadau
Wonderbrass are an internationally acclaimed 25 piece Soul, Funk, Ska, Latin, Jazz juggernaut -- a danceaholic wall of sound -- a kick-ass brass tidal wave -- unmissable!!!!! Wonderbrass formed in 1992 as a community street band from Pontypridd South Wales; Today they are bigger, bolder and brassier (pun intended) than ever before. Under the expert leadership of instrumentalist and composer Rob Smith and drummer extraordinaire Mark O'Connor, Wonderbrass are constantly evolving and exploring new musical challenges.
Welsh video transcript: 4. POPPING MY SOLO CHERRY
Dw i erioed wedi bod y perfformwyr mwyaf nerfus, ond dw i wedi mwynhau cael y cyfle i fynegi fy hunan erioed.
Y tro cyntaf ges i fy newis i wneud unawd, yng nghanol gig, dwedais i, “Na!”.
Roedd chwarae'r alawon, ac yn cael y cyfle i fynegi fy hunan yn newydd i mi ar y pryd.
Mae'n rhywbeth dw i wedi'i roi i mewn i'r band dw i'n chwarae ynddo fe nawr hefyd.
Ers hynny, dw i ddim yn meddwl fy mod i wedi gwrthod gwneud unawd.
Felly dw i'n credu bod hynny'n dweud llawer am beth mae’r band yn gallu’i wneud i hyder rhywun.
Mae yna ddarnau eraill ble mae unrhyw un yn gallu cael ei ddewis i wneud unawd.
A dyna yw traddodiad Wonderbrass mewn gwirionedd bod pawb yn gwneud unawdau.
Ro’n i ofn chwarae unawd.
Do’n i ddim eisiau ei wneud e erioed.
Ro’n i’n parchu’r bobl hyn – y bobl anhygoel yn y band hwn a rhai o'r pethau ro’n nhw’n gallu eu gwneud. Do’n i erioed yn meddwl byddwn i’n gallu ei wneud e.
Cymerodd e o leiaf bum mlynedd ar ôl i mi ymuno.
Pan fydd pobl yn chwarae unawd yn y band, fel arfer mae'r adran rhythm yn chwarae tu ôl iddyn nhw.
Rwy'n credu mai'r peth mwyaf dychrynllyd i mi ei wneud erioed yn fy mywyd, ar wahân i eni plentyn, oedd Rob, dw i'n sicr, fel jôc, ces i linell driongl mewn un o ddarnau Rob a phenderfynodd e fod yr wyth bar olaf - Lachrimae oedd ei enw - mae'n ddarn hardd, hardd gyda llinellau trombôn rhyfeddol ynddo, ac roedd yr wyth bar olaf yn cynnwys fy rhythm triongl yn unig, gyda neb arall.
Ro’n ni'n arfer chwarae mewn carnifal a gŵyl jazz ym Mhont-y-pŵl.
Roedd fy unawd cyntaf i ar strydoedd cefn Pont-y-pŵl.
Ro’n ni wedi mynd trwy'r dref i gyd, wedi gwneud yr holl ddarnau da, ond roedden ni’n dal i ddilyn y lorïau a'r fflotiau yn chwarae ac yn gorymdeithio wrth i ni basio’r tai yng nghefn Pont-y-pŵl yn rhywle.
Roedden ni’n cerdded tu ôl i ryw fflôt, a oedd â chrocodeil chwyddadwy ar fwrdd sgrialu wedi'i glymu ar ei gefn.
Fe wnes i fy unawd cyntaf mewn gorymdaith ym Mhont-y-pŵl yn dilyn crocodeil chwyddadwy ar fwrdd sgrialu tu allan i dai pobl heb neb yn gwylio a ro’n i fel, "Diolch i Dduw bod e drosodd!”.
Mae’r alaw agoriadol ar un o'r darnau, Caravan, wedi’i chwarae gan drombôn.
Am y rhan fwyaf o'r ddwy flynedd ddiwethaf, Fi oedd yr unig drombôn yn y band, felly dyna oedd fy unawd mewn gwirionedd.
Rhyw ddydd dw i'n mynd i'w gael e’n iawn!
Roedd Rob, gyda pharch iddo fe, wastad yn gwybod pan oedd rhywun yn barod i'w wneud e ac yna’n awgrymu pa ddarn i'w dewis.
Y tro cyntaf i mi chwarae unawd, ro’n i ofn.
Daeth Rob ata i a dweud, "Ti ffansi cael unawd yn yr un hon?”
Dechreuais i feddwl, "Duw! Duw!" yn syth. Meddai, "Edrycha, fyddi di ddim yn lladd unrhyw un.”
Ro’n i wedi bod yn gwylio pawb arall yn chwarae unawdau ers misoedd.
Ro’n i fel, "Fydda i byth yn gallu chwarae fel nhw.“
Ti’n mynd i’r blaen...
Fe wnes i jyst gwneud e.
..ac mae’r band yn rhoi cymeradwyaeth fawr i ti ar y diwedd, oherwydd maen nhw’n gwybod mai hwn yw eich unawd gyntaf.
Does dim pwysau o gwbl. Roedd pawb yn gwybod sut brofiad yw chwarae eich unawd gyntaf ac maen nhw’n wirioneddol gefnogol a hyfryd.
Rydych chi'n cael cymaint o wefr pan fydd hynny'n digwydd.
Mae e fel neidio oddi ar glogwyn a glanio ar eich traed.
Roedd yr holl bethau hyn yn fy mhen.
Un o'r pethau ro’n i'n arfer ei wneud oedd ceisio chwarae beth oedd yn fy mhen yn lle beth o’n i’n gallu ei chwarae.
Dywedodd Rob unwaith, "Chwaraea lai o nodiadau." Ro’n i fel, "Mae hynny'n bwynt da iawn.”
Roedd e’n teimlo’n naturiol iawn gyda'r grŵp hwn.
Mae'r gerddoriaeth yn addas ar gyfer gwneud unawdau a bod yn greadigol yn y cefndir.
Rydych chi’n gallu gweld rhywun sy wedi cael eu dewis i wneud unawd ac maen nhw‘n ei wneud e, ac maen nhw'n creu rhywbeth gonest, eu datganiad nhw yw e.
Ac yn aml iawn, mae’r cynulleidfaoedd wir yn cefnogi pobl maen nhw'n meddwl, "Ie, ie, mae'r person yma'n mynd amdani.”
Dw i'n cofio Rob yn pwyntio ata i a wnes i feddwl, "Dydy e ddim yn pwyntio ata i.", oherwydd rydw i’n sefyll yn y cefn fel arfer. Yna agorodd y dorf a ro’n i fel, "Iawn, mae'n rhaid i fi wneud rhywbeth nawr."Ond, ie, dw i'n credu bod fi wedi llwyddo. Dw i'n gobeithio!
Derbyniais i gymeradwyaeth fawr gan y band.
Roedd pawb mor gefnogol a dyna'r peth mawr mewn gwirionedd.
Symudodd fy mysedd yn y pen draw, ond wnes i ddim perfformio'n arbennig o dda.
Ro’n i'n meddwl mai dyna oedd ddiwedd fy ngyrfa gyda Wonderbrass.
Roedd y profiad o chwarae'r unawd gyntaf yn brofiad rhyddhaol iawn.
Ro’n i’n gallu chwarae unawdau yn barod, felly i fi, doedd hynny ddim yn rhywbeth newydd, roedd hynny'n rhywbeth o’n i’n gallu ei wneud yn barod.
Roedd hi'n braf iawn i allu gwneud hynny. Roedd hi’n teimlo fel dod adref, sbo, i allu gwneud y cyfraniad hwnnw.
Ro’n i wedi bod yn chwarae rhai unawdau mewn ymarferion, ac yna roedd hi fel, "Mae’n rhaid i fi ei wneud e nawr.”
Roedd e’n wych.
Roedd e’n hwb i fy hyder i yn gwneud y gig yna ac i gael cyfle i wneud unawd.
Fyddech chi ddim yn gwybod beth mae Rob yn mynd i'w wneud nesaf, hynny yw, rydyn ni i gyd yn gyfarwydd a'r darnau, ond dydy e ddim yn cadw popeth yr un peth.
Efallai bydd e’n pwyntio atoch chi pan nad ydych chi'n ei ddisgwyl, felly mae’n rhaid i chi gadw'ch llygaid ar beth sy'n digwydd, oherwydd bydd e’n pwyntio ac mae'n rhaid i chi suddo neu nofio yn y moment yno.
Fe wnes i fe mewn un o’r ymarferion.
Pan mae rhywun yn gwneud ei unawd gyntaf mewn ymarfer, mae pawb yn rhoi cymeradwyaeth i chi ar y diwedd, sydd yn hyfryd.
Ar ôl i chi wneud eich unawd gyntaf, dydy’r unawdau eraill ddim mor frawychus.
Bob hyn a hyn, mae Rob yn taflu un at yr adran rhythm ac rydyn ni naill ai'n cael unawd drwm neu unawd bas.
Ie, felly, mae yna dwy unawd drwm mewn gig fel arfer.
Y gig fwyaf wnes i gyda nhw oedd Gŵyl Jas Aberhonddu.
Gwnes i unawd yn y gig yna, a oedd yn eithaf cŵl.
Roedd hi’n foment i mi oresgyn y nerfau hynny, felly ro’n i'n falch iawn fy mod i wedi'i wneud e.
Dw i'n gwybod bod fy nhad wedi’i recordio e ac roedd e’n ei ddangos e i’w ffrindiau i gyd yn gyson am tua phum mlynedd wedi hynny, oherwydd gwnaeth ei ferch e unawd jas yn Jas Aberhonddu.
Roedd fy nhad yn gefnogwr brwd.
Dw u'n cofio teimlo fy wyneb yn cochi, wrth i mi feddwl, "Dw i ddim yn gallu gwneud hyn!" Ond yna, mi wnes i fe ac roedd pawb yn clapio a symudon nhw ymlaen at y person nesaf.
Rydych chi'n meddwl bod pawb yn edrych arnoch chi, ond mewn gwirionedd, mae pawb yn chwarae, dyw e ddim mor frawychus.
Roedd yn dda i’w gael e allan o'r ffordd!
Dw i wrth fy modd yn chwarae unawdau. I fi, maen nhw’n hawdd iawn.
Felly ro’n i'n fwy nerfus am ddysgu’r alawon ysgrifenedig yn hytrach na gwneud unawdau.
Mewn gwirionedd, dw i ond yn dysgu’r alawon er mwyn gallu chwarae unawdau’n well.
Dw i'n cofio ei wneud e yng Ngŵyl Jas Aberhonddu un tro ac ar y diwedd, sylweddolais i fy mod i ddim wedi anadlu trwy'r cyfan, oherwydd ro’n i jyst yn teimlo mor agored.
Roedd e’n wirioneddol wefreiddiol, felly dw i ddim yn gwybod sut mae pobl yn gwneud unawdau trwy'r amser.
Efallai pan rydych chi'n chwarae offeryn pres, mae'n rhaid i chi anadlu, felly dyna'r gwahaniaeth.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment