Skip to main content

First Time I Heard the Band | Wonderbrass 25

Disgrifiadau

Wonderbrass are an internationally acclaimed 25 piece Soul, Funk, Ska, Latin, Jazz juggernaut -- a danceaholic wall of sound -- a kick-ass brass tidal wave -- unmissable!!!!! Wonderbrass formed in 1992 as a community street band from Pontypridd South Wales.Today they are bigger, bolder and brassier (pun intended) than ever before. Under the expert leadership of instrumentalist and composer Rob Smith and drummer extraordinaire Mark O'Connor, Wonderbrass are constantly evolving and exploring new musical challenges.

Welsh video transcript:

Clywais i am Wonderbrass am y tro cyntaf…
Y profiad cyntaf dw i'n ei gofio o Wonderbrass,
yw gig yng Ngerddi Dyffryn.
Ym ...
Na, anghofiwch hynny.
Mae gen i deimlad roedd e yn 10 Feet Tall.
Ydy e?
Nid 10 Feet Tall. Ai Buffalo oedd e? Duw!
Dw i ddim yn cofio mewn gwirionedd.
Dw i'n hoff iawn o gerddoriaeth fawr, ffynci. Dw i'n mwyhau llawer o bres.
Wnes i ddim clywed am Wonderbrass, oherwydd ro’n i yno pan ddechreuodd Wonderbrass.
Ro’n i'n gwneud cwrs yn hyfforddi i fod yn gerddor cymunedol.
Gwelais i nhw mewn gig yn y Goleudy, sef fy lleoliad lleol ar gyfer cerddoriaeth fyw.
Fe wnes i gasglu fy holl ddewrder un dydd Sadwrn, ar fy mhen-blwydd yn 30 oed, es i lawr a chwrddais i â Rob.
Roedd popeth i weld yn hwyl ac yn ddifyr dros ben a ro’n i eisiau ymuno â nhw.
Roedd yna Gŵyl Erddi Genedlaethol Cymru yn Ebbw Vale.
Gwnaethon ni newid i fod yn fand stryd a chawson ni ychydig o arian.
Ro’n nhw'n dosbarthu arian cychwyn i unrhyw un a oedd â phrosiect.
Dw i'n nabod Hannah, sy'n chwarae'r bariton.
Roedd hi wedi bod yn chwarae gyda'r band ers cwpl o flynyddoedd ac yn gwybod fy mod i wedi chwarae’r sacsoffon flynyddoedd yn ôl.
Roedd hi wedi bod tua 18 mlynedd ers i mi ei godi.
Dywedodd hi wrtho i am ddod draw a rhoi cynnig arni, felly fe wnes i.
Roedd y prosiect i fod i ddod i ben, ond dwedodd y bobl yn y band, "Iawn, rydyn ni'n mynd i geisio codi arian er mwyn cadw'r band i fynd.”
Gwnaeth eu hegni argraff enfawr arna i.
Roedd pawb yn cael cymaint o hwyl a meddyliais i, "Mae fy sacsoffon i wedi bod yn eistedd yn yr atig am ddeng mlynedd, mae hyn yn chwerthinllyd.
"Byddwn i wrth fy modd yn gwneud rhywbeth fel hyn.”
Yn y cyfamser, nid oedd Cymdeithas Jazz Cymru yn gallu ariannu'r band yng Nghaerdydd bellach, felly roedd y band yn dirywio. Dechreuodd bawb fynd lan i Bontypridd ar nos Fawrth.
Felly cawson ni fand arbennig o fewn tua dwy flynedd.
Roedd fy mrawd, Dylan, sy'n chwarae'r trombôn, yn chwarae gyda Wonderbrass.
Ro’n nhw newydd gychwyn pan ymunais i a chefais i fy mrathu gan y byg Wonderbrass, sydd wedi digwydd i lawer o bobl, dw i'n meddwl.
Ymunais i â Wonderbrass trwy Anthony.
Roedd e'n llygaid ei le, ro’n nhw'n wych.
Roedd fy merch yn mynychu'r un ysgol Meithrin â merch Rob, ac fe wnes i ddechrau sgwrsio ag ef.
Es i gig yn The Electricity Club yn Llandaf, sydd bellach yn ystâd dai, a meddyliais i, "Waw, dyma'r math o gerddoriaeth hoffwn i'w chwarae.”
Roedd fy merch yn Nhreganna, sef ysgol Gymraeg leol, ac aeth merched Rob yno hefyd.
Meddai, "Pam na wnewch chi ymuno â Wonderbrass?", a meddyliais i, "Fe wnaf i roi cynnig arni.”
Dw i'n cofio un diwrnod, gweld y band yma ac yn gofyn sut allwch chi gymryd rhan?
Cefais i fy nghyfeirio at dafarn y Four Bars gyferbyn â'r Castell. Dempseys oedd ei enw, dw i'n credu.
Un diwrnod, yn ystod cystadleuaeth rygbi'r Chwe Gwlad ro’n i'n digwydd fod yn y dre.
Aeth y band gorymdeithiol hwn heibio, a meddyliais i, "Duw, dyna'r union fath o fand hoffwn i ymuno â nhw.”
Dw i yn cofio Richard ac Andy.
Roedd Richard yn chwarae'r trymped, Roedd Andy yn chwarae'r clarinét.
Roedd hynny tua 1993.
Roedd yn edrych yn fendigedig - llawer o liwiau llachar, yn chwarae ar y strydoedd, a dywedais, "Dw i wir eisiau gwneud hynny. Hoffwn i ymuno â'u band nhw. “
Dywedodd fy merch, "Fyddwch chi byth yn gallu gwneud hynny, Mam.", felly rydw i wedi'i phrofi'n anghywir.
Cwrddais i â rhywun o'r band yn ystod gwrs Cyflwyniad i Jazz.
Fe wnes i'r cwrs fel rhan o fy ngradd Ffiseg Israddedig fel fy modiwl annibynnol.
Pan oeddwn i’n 35, ro’n i'n yfed yn y tafarn ble oedd Wonderbrass yn ymarfer.
Roedd yn ystafell gefn eithaf mawr yn llawn pobl yn chwarae pob math o offerynnau diddorol.
O’n i erioed wedi gweld na chlywed unrhyw beth tebyg o’r blaen. Ro’n i'n gaeth ar unwaith.
Roedd trombôn gyda fi adref, a oedd yn eiddo i fy nhaid, roedd e wedi bod trwy'r Rhyfel Mawr.
Er mwyn dysgu ac ymgysylltu go iawn gyda cherddoriaeth mae'n rhaid i chi chwarae gyda phobl eraill.
Fe wnes i ddod gyda'r trombôn hwn yn dweud fy mod i eisiau ymuno, a dwedon nhw, "Cer â hwnna adref a chwarae'r trombôn Bach newydd sbon hwn yn lle.”
Pobl sy'n eich herio.
Dyna beth fu arbenigedd Wonderbrass erioed.
Yn eich herio chi, ond yn eich herio chi mewn ffordd sy'n gymdeithasol iawn.
Ro’n i'n chwilio am diwtor bas, a cherddais i mewn i Four Bars.
Gofynnais i Rob am wersi.
Dywedodd wrtho i eu bod nhw ddim yn cynnal gwersi, ond roedd croeso mawr i fi ymuno â nhw.
Es i fy ymarfer cyntaf wythnos ar ôl fy mhen-blwydd yn 17 oed, a ro’n i newydd ddechrau gwersi gyrru.
Bydden i’n gyrru i drwy'r dref gyda fy mam er mwyn ymarfer gyrru, mynd i ymarferion, ac yna byddai fy mam yn fy nghasglu er mwyn i fi allu gyrru adref. Roedd hynny'n berffaith.
Tua chwe wythnos yn ddiweddarach, dywedodd Rob wrtho i, "Ti ffansi chwarae yng Ngŵyl Jas Aberhonddu?”
Roedd fy mhrofiad cyntaf i o Wonderbrass yn Aberhonddu, yng Ngŵyl Jas Aberhonddu.
Ond ro'n i'n talu’r pris mynediad bryd hynny.
Dw i'n cofio clywed a gweld Wonderbrass am y tro cyntaf yng Ngŵyl Jas Aberhonddu.
Dw i'n mynd i ddyfalu pa flwyddyn oedd hi.
Dw i'n credu roedd hi tua 1994 neu 1995, rhywbeth felly.
Dw i ddim yn gallu cofio sut yn union wnaeth e ddigwydd, ond penderfyniad grŵp oedd hi.
Dw i'n credu bod Fran wedi dod o hyd iddyn nhw ar y we. Roedd hi'n chwilio am fandiau yng Nghaerdydd ar Google.
Des i ar draws gwefan Wonderbrass a meddwl, "Waw, maen nhw'n edrych yn cŵl.”
Do’n i ddim yn gwybod llawer am jas a wnes i feddwl, "Efallai byddaf i'n ymuno â nhw.”
Y peth cyntaf clywais i oedd Caravan.
Roedden nhw wedi'i recordio hi ac roedd e'n swnio mor hwyl.
Gwnaethon ni feddwl, "Dyma'r math o fand hoffwn ni ymuno â nhw.”
Roedd Wonderbrass yn chwarae set allan ar y stryd ar y prif sgwâr.
Roedd y band yn chwarae tra oeddwn i'n cerdded heibio, a meddyliais i, "Mae hynny'n swnio'n eitha da”.
Wonderbrass oedden nhw.
Dw i'n cofio gweld pawb - eu clywed nhw'n gyntaf, yn amlwg, ac yna’n gweld pawb yn sefyll mewn cylch.
Pan welais i'r band am y tro cyntaf, wnes i feddwl eu bod nhw'n wych. Ces i fy syfrdanu.
Un peth wnes i'w sylwi oedd bod yna gymaint ohonyn nhw.
Fe wnes i gwrdd â Caz Flute a ddywedodd hi, "Dw i'n chwarae mewn band." "Pa fand?, meddais i", a dywedodd hi, "Wonderbrass, dylech chi ddod draw." Felly es i lawr, wrth gwrs. Dw i wedi bod yn bresennol erioed, byddwn i'n dweud.
Des i'n 'Wonder Widow’.
Roedd yna ysgol haf ym Mhontypridd. Cwrddais i â rhai aelodau o Wonderbrass ac fe wnaethon nhw awgrymu fy mod i'n dod draw. Es i lawr a do'n i ddim yn bwriadu aros am hir iawn, ond dw i wedi bod yno am amser maith! Ers fy niwrnod cyntaf gyda'r band, dw i wrth fy modd. Roeddwn i'n teimlo'n gartrefol gyda Wonderbrass a'i neges.
Dw i wedi bod yn gweithio fel peiriannydd sain byw ers deng mlynedd o gwmpas Caerdydd. Des i ar draws Wonderbrass un diwrnod mewn gŵyl ym Mae Caerdydd. Dw i'n eu cofio nhw'n chwarae ar ryw lwyfan bach sydd gan Gyngor Caerdydd hyd heddiw, Dw i'n cofio meddwl, "Sut ydyn ni'n mynd i roi'r band cyfan gan gynnwys y microffonau ar y llwyfan hwn?" Ond wnes i erioed feddwl y gallwn i fod yn un o'r bobl sydd yn chwarae gyda nhw.
Clywais i am Wonderbrass am fod fy ngwraig yn aelod o'r band. Roeddwn i'n mynychu cymaint o gigs yn eu cefnogi nhw, wnes i feddwl, "Arhosa funud, dw i eisiau profi ochr arall y profiad.”
Ar ôl blwyddyn neu ddwy o wersi, dechreuais i ddod draw i'r ymarferion.
Roeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Hanner Marathon Caerdydd yn 2016. Es i heibio Wonderbrass tra oedden nhw'n chwarae y tu allan i'r fynwent yn Cathays ac fe wnes i feddwl, "Dw i eisiau bod yn y band hwnnw!”
Ro’n i wrth fy modd a'u cerddoriaeth nhw - roedden nhw’n chwarae ychydig o reggae, ychydig o sga, yn gwneud unawdau ac yn cael hwyl a sbri.
Mewn gwirionedd, gwelais i Wonderbrass wnes i ddim clywed amdanyn nhw, pan oeddwn i'n mynd i Ysgol Haf Bro Morgannwg.
Gwelais i nhw am y tro cyntaf yn The Gate ar eu pen-blwydd yn 25. Wnes i ddim stopio gwenu trwy'r noson. Ro'n i'n meddwl eu bod nhw'n wych. Ro'n nhw'n hollol wallgof.
Ro'n i'n meddwl eu bod nhw'n wych oherwydd ni'n gallu gweld personoliaethau unigol pawb yn y gerddoriaeth, yn yr unawdau, y rhannau maen nhw'n eu chwarae, a'r ffordd ro'n nhw i gyd yn cymryd rhan.
Roedd yn brofiad hollol anhygoel.
Ro'n i'n byw yn Sir Benfro, a daeth fy mhriodas i ben. Wnes i ffonio Richard achos ro'n i wedi bod ar gwrs gyda fe, a meddais i, "Mae tŷ gyda ti, on'd oes?" Meddodd "Oes." "Rwyt ti'n chwarae mewn band, on'd wyt ti?" Meddai, "Ydw." A dywedais i, " "Ga i fyw gyda ti a chwarae gyda'r band?" Ac meddai, "Gallet," felly symudais i Drefforest.
Yn The Globe oedd hi, dw i'n credu.
Wel, ces i fy syfrdanu mewn gwirionedd.
Daeth ag atgofion yn ôl, oherwydd ro'n i wedi rhoi’r gorau i chwarae'r trymped 25 mlynedd cyn hyn.
Daeth ag atgofion yn ôl o amseroedd gwych, hwyliog a gwnaeth i mi sylweddoli cymaint dw i'n mwynhau cerddoriaeth.
Stori ddoniol - yr enw 'Wonderbrass' - dim ond tua phedwar mis yn ôl wnaeth e daro deuddeg am beth mae'r enw yn cyfeirio ato. Ro'n i'n meddwl bod hynny’n ddoniol iawn.
Tua dwy flynedd ar ôl cychwyn, yn 1994, dyna pryd wnaethon ni ddewis yr enw ‘Wonderbrass'.
Ro'n ni'n galw ein hunain yn 'The Taff-Ely Street Band', a doedd hynny ddim yn gofiadwy iawn.
Dyna pryd wnaethon ni greu’r enw 'Wonderbrass' a dyna pryd clywais i’r enw Wonderbrass' am y tro cyntaf.

Owner:
Wonderbrass Wales
Crëwr:
Wonderbrass Wales
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2019
Eitem wedi’i llwytho:
22/9/2019
Date originally created:
6/9/2019
Gwelediadau:
801
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment