Skip to main content

Barbareiddiwch y Gelyn (1918)

Disgrifiadau

Dyddiad: 16 Hydref 1918

Trawsysgrif:

Barbareiddiwch y Gelyn

Mae gweithredoedd anfad y gelyn, hyd yn nod pan y mae gyda'r un gwynt yn gofyn am heddwch, yn gorfodi y Cynghreiriaid i ddal nid yn unig yr arweinwyr militaraidd yn gyfrifol, ond hefyd yr holl genedl sydd yn goddef ac yn ymlawenhau yn y fath weithredoedd. Er y gwyr yr holl fyd am eu llofruddiaethau dirif, synai pawb at eu hechryslonderau diweddaraf. Yr wythnos ddiweddiaf suddwyd agerlong y 'Royal Mail'—y Leinster ar ei ffordd o Kingstown, a'r llong Hirano Maru, berthynol i Japan. Yr oedd ar fwrdd y Leinster 657 o bersonau, yn cynnwys gwragedd a phlant, a chriw o tua 70. Torpediwyd hi gan suddlong ddwywaith, ac yn ol y cyfrif diweddaraf collwyd 500 o fywydau. Collwyd 291 hefyd ar yr Hirano Maru. Nid oedd suddo y ddwy long hyn, gyda gwyr, gwragedd a phlant diniwed ynddynt yn fantais filwrol o gwbl, ond llofruddiaeth noeth, croes i bob deddf filwrol a moesol. Yr un modd gyda golwg ar losgi trefi a phentrefi pan yn gvvrthgilio o Ffrainc, a chludo y trigolion ymaith at orchwylion milwrol. Anfadwaith dialgar yw hyn oll, sydd yn gwneuthur gofynion y Cynghreiriaid am iawn oddiar y gelyn yn drymach nag erioed.

Ffynhonnell:
‘Barbareiddiwch y Gelyn.’ Y Cymro. 16 Hyd. 1918. 2.

Owner:
Welsh Newspapers Online, National Library of Wales
Crëwr:
Y Cymro
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Papurau Newydd Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Eitem wedi’i llwytho:
7/6/2019
Date originally created:
16/10/1919
Gwelediadau:
525
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment