Adroddiad Swyddogol ar golli’r AGNES ar 26 Rhagfyr 1916
Disgrifiadau
Yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd gan y Morlys drefn ar gyfer casglu gwybodaeth am ymosodiadau gan longau-U, ac am y mathau o longau-U a’u harfau a chyfarpar. Cafodd holiaduron safonedig eu cynhyrchu yn Saesneg a Ffrangeg (Ffurflen S.A.), y mae copïau ohonynt i’w cael wedi’u rhwymo mewn cyfrolau gan Adran Cudd-ymchwil y Morlys, Llundain. Maen nhw’n cael eu cadw yn Yr Archifau Cenedlaethol yn Kew erbyn hyn. Mae’r copi carbon teipiedig hwn yn dangos y wybodaeth ar y Ffurflen S.A. ar gyfer y AGNES.
Llong hwyliau Brydeinig oedd y AGNES. Cafodd ei suddo ger St Ann's Head gan yr UC 46 dan reolaeth y KapLt Friedrich Moecke ar 26 Rhagfyr 1916. Ni chollodd neb ei fywyd.
Ffynhonnell:
ADM 137/3974. Enemy submarines: particulars of attacks on merchant vessels in home waters. 21-31 December 1916. ADM - Records of the Admiralty, Naval Forces, Royal Marines, Coastguard, and related bodies. The National Archives, Kew. n.p.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment