Adolygiad y Wasg: CYNCHGRONAU [sic], "CYMRU," [...] Rhifyn Ebrill (1917)
Disgrifiadau
Dyddiad: 14 Ebrill 1917
Trawsysgrif:
Adolygiad y Wasg.
CYNCHGRONAU [sic]. "CYMRU," [...]
Rhifyn Ebrill. Rhifyn Ebrin.—Ceir yn hwn, etto, ysgrifau campus, ac yn eu plith rhyw ddau ddwsin o englynion ar y gauaf caled, gan J. R. Tryfanwy, Dyma un da i'r rhyfel:—
Deil ei wanc andwyol o—fel annwn,
Ac ni flina'n rhuo
Dduw, ba wedd y bu iddo
Gymaint rhwysg? ai mwyn y tro?
Suddo Llongau'r byd:—
Mae dynion yn ymdonni—o ddial
A'r ddaear yn gwelwi;
I Dduw Ion, be ddaw inni,
A'r un llong ar fron y lli.
Amryw o'r ysgrifau yn y rhifyn yma yn dilyn o'r un o'i flaen; sef. Daniel Davies, Ton. Agricola, Minffordd. Yn hanes Minffordd ceir darlun o Syr A. Osmond WilIiams, Barwnig. Arglwydd Raglaw sir Feirionydd. Gwr boneddig a fu yn gefn da i'r tlawd a'r anghenus. Y mae amryw o ysgrifau eraill yn y rhifyn, a barddoniaeth o bob maint a llun, gan rai o'r prif feirdd, a Chronicl y Mis.
Ffynhonnell:
‘Cynchgronau [sic]. "Cymru" [...] Rhifyn Ebrill.’ Baner ac Amserau Cymru. 14 Ebr. 1917. 6.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment