Skip to main content

Peter Hughes-Griffiths

Mae'r cyfwelai hwn yn trafod Tryweryn a'r ymgais i geisio gwerthu darnau bach o Gwm Celyn i nifer enfawr o bobl er mwyn ei gwneud yn anoddach i Gorfforaeth Dinas Lerpwl sicrhau'r tir er mwyn creu'r gronfa ddwr - a methiant y fenter honno. Sonia hefyd am yr Arwisgiad a'r tensiynau a'r problemau a achoswyd iddo yn bersonol yn sgil gwahodd yr Urdd a'r Methodistiaid i fod yn rhan o'r seremoni. Mae'n trafod ymgyrch Datganoli 79 a rol Gwynfor Evans. Cyfeiria hefyd at duedd y sefydliad i hyrwyddo'r teulu Brenhinol yng Nghymru er mwyn cadw cenedlaetholdeb Cymreig dan reolaeth. Mae'n gresynu at fethiant aml y cyfryngau i gyfleu safbwynt Cymreig.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment