Skip to main content

When Sally Met Sally, dathliad o bryf y cerrig Isogenus nubecula gan Patricia MacKinnon-Day

Mae’r ffilm When Sally Met Sally yn naratif chwareus, haenog sy’n gwneud y cysylltiad rhwng pryf y cerrig a menyw ifanc ffuglennol o’r enw Sally, a fu’n byw yng nghefn gwlad Wrecsam ym 1959, pan ddarganfuwyd pryf y cerrig Isogenus nubecula yn afon Dyfrdwy.  Er bod y rhywogaeth pryf y cerrig hon wedi bod yn hysbys ers dros ganrif mewn afonydd eraill yn y DU, roedd hon yn foment arbennig i’r ardal leol. Mae’r ffilm yn caniatáu i’r gwyliwr fyfyrio ar harddwch a breuder ein hamgylchedd naturiol.

Llwyddodd anweledigrwydd a breuder ecolegol pryf y cerrig Isogenus nubecula i sbarduno trafodaethau gyda gwahanol gymunedau am lesiant a theimlo’n ynysig ac yn unig. Mae’r ffilm gelf When Sally Met Sally yn pontio’r llinell rhwng adroddiadau gwyddonol sy’n egluro arwyddocâd a phwysigrwydd y rhywogaeth pryf y cerrig a stori Sally, cymeriad ffuglennol, sy’n cofio, fel menyw 22 oed, darganfod pryf y cerrig Isogenus nubecula ym Mangor Is-coed ym 1959. Mae’r Sally ifanc wrth ei bodd â natur, mae hi’n ysgafnfryd ac yn hapus, ac (yn union fel pryf y cerrig Isogenus nubecula) mae hi wrth ei bodd yn dawnsio. 

Mae Sally heddiw yn cymharu breuder ac anweledigrwydd pryf y cerrig Isogenus nubecula â’r heriau y mae hi’n eu hwynebu nawr yn ei henaint, ac yn canfod bod cael ymdrochi yn natur yn cryfhau ei llesiant corfforol a meddyliol. 

Roedd y cyfnewid rhwng ffuglen a realiti yn gyfle i ymyrryd yn greadigol gydag aelodau oedrannus cymuned Canolfan yr Enfys, Dancing Shoes, Wrecsam a thrigolion Bangor Is-coed. Roedd y gweithdai’n cynnwys perfformiadau dawns a chyflwyniadau ffilm, ac yna trafodaethau, yn ogystal â phaentio, lluniadu a rhannu atgofion. Roedd y gweithgareddau hyn yn hamddenol, a bu’r sgyrsiau’n llifo am lesiant, anweledigrwydd, ecoleg a newidiadau amgylcheddol ers 1959. 

 

Am yr artist: Mae gwaith yr artist Patricia MacKinnon-Day wedi cael ei arddangos mewn lleoliadau ledled y DU ac mewn mannau eraill. Gan arbenigo mewn ffilm a gosodiadau, mae ei gwaith wedi creu cyfres o osodiadau oriel sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, a phrosiectau corfforaethol a chyhoeddus sy’n benodol i safle yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dewiswyd ffilm ddiweddar, The Start of All Imaginings, am fasnachwyr marchnad i’w chyflwyno yn y Venice Time Space Existence Architectural Biennial (2023), a ddangoswyd yn Palazzo Mora, Fenis. Arddangoswyd The Calling Sheds, gwaith cydweithredol am iaith a phrosesau gwaith pedair bugail benywaidd o’r DU a Gweriniaeth Iwerddon, yn Tate Liverpool (2019)

Mae ei hymchwil yn herio’r rhagdybiaethau am artist fel cynhyrchydd cynnyrch yn unig, ac yn ceisio archwilio rôl yr artist yn y broses gyfan. Mae hi wedi ymchwilio i gymunedau lleol ers dros 25 mlynedd; mae ei gwaith yn ymwneud ag ehangu mynediad a gweithio gyda chymunedau amrywiol. Mae hi’n ymdrechu i roi llais i’r cyffredin a datgelu hunaniaethau cudd o fewn ffrâm goffaol ond dros dro cyd-destunau penodol.

Ganwyd Patricia yng Nglasgow. Mae ganddi radd BA (Anrh) gyda rhagoriaeth o Brifysgol John Moores Lerpwl (1989), a gradd Meistr o Goleg Brenhinol y Celfyddydau (1994). Enillodd ddoethuriaeth o Brifysgol John Moores Lerpwl (2017) a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Anrhydeddus iddi yn 2022. 

 

Comisiynwyd y gwaith hwn fel rhan o ymgyrch Natur Am Byth! sef prosiect gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gwelediadau:
83
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
06/10/2025

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment