Cyflwyno Isogenus nubecula, 2026
Disgrifiadau
Cyflwynwyd gweithiau ffilm sydd ar y gweill am Isogenus nubecula i aelodau'r gymuned a staff yn The Rainbow Centre, Llannerch Banna. Roedd y cyflwyniad hwn yn cynnwys y cyfweliadau â Hannah a Jo, ymchwilwyr yn Sŵ Caer yn egluro'r broses o ddod o hyd i’r pryf cerrig yn 2017. Siaradais ag unigolion a recordiais eu hymatebion i'r gweithiau ffilm. Fe wnaeth doethineb yn sgil mynd yn hŷn a'r straeon a gasglwyd dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio ar y cyd i adfer a gwella bywyd cymunedol a gofalu am ein hamgylchedd naturiol. Y dybiaeth yw mai dim ond ieuenctid heddiw sy'n ymwybodol, ond yr hyn a fynegodd y gymuned o’r Rainbow Centre oedd eu bod nhw wedi bod yn poeni erioed am gynaliadwyedd ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol ac nad yw ein ffyrdd o fyw heddiw yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment