Skip to main content

Transcript for audio interview with retired ecologist Dr Andrew Lucas, Swansea, 2025

Cyfweliad â'r ecolegwr wedi ymddeol Dr Andrew Lucas, Abertawe, 2025

Cyfweliad â Dr Andrew Lucas, ecolegydd wedi ymddeol, gan Lindsey Thomas, hyfforddai swyddog cadwraeth gyda Buglife a Natur am Byth! Mae’r cyfweliad yn trafod cefndir a gyrfa Andrew, gan edrych ar sut mae'r sector cadwraeth wedi newid dros y 30 mlynedd diwethaf a sut mae'n credu y gallai pethau ddatblygu yn y dyfodol. 

Treuliodd Andrew y rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio i Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Recordiwyd y sgwrs yn swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru yn Llandarcy, Castell-nedd Port Talbot.

 

Wedi'i recordio ar 15 Rhagfyr 2025, mae’r cyfweliad yn cwmpasu'r 1980au hyd heddiw, ac mae hefyd yn edrych ar ddyfodol y sector. 

 

Wedi'i recordio yn Llandarcy, mae'n cwmpasu'r rhan fwyaf o dde’r wlad ynghyd â rhywfaint o drafodaeth am Rutland Water ger Caerlŷr. 

 

Trawsgrifiad 

 

Lindsey Thomas [LT]: 

 I gychwyn bant, a allech chi gyflwyno'ch hun? Felly, pwy ydych chi a beth yw eich cefndir? 

Dr Andrew Lucas [AL]: 

 Iawn, Andrew Lucas ydw i. Roeddwn i'n gweithio i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac yna i Gyfoeth Naturiol Cymru ers 1992, hyd at pan wnes i ymddeol yn 2022. Iawn, te. Felly ychydig dros 30 mlynedd. 

 Cyn hynny, fel mae llawer o bobl yn ei wneud, roedd gen i lawer o swyddi contract yma ac acw, ym mhobman. Roeddwn i'n warden parc gwledig am sawl blwyddyn. O ran fy nghefndir addysgol, mae gen i radd o Brifysgol Dwyrain Anglia. Felly, fe astudiais i ecoleg ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia ac yna llawer, llawer yn ddiweddarach, fe wnes i ddoethuriaeth dan oruchwyliaeth ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol. 

LT: 

 Iawn, diolch am hynny. A fyddech chi'n dweud eich bod chi wedi bod â diddordeb yn y byd naturiol ers pan oeddech chi’n ifanc? 

AL: 

 Yn sicr. Dywedais i wrth fy mhennaeth yn yr ysgol fy mod i'n mynd i fod yn ecolegydd pan oeddwn i'n 11 oed. 

LT: 

 Waw! 

AL: 

 Roeddwn i am fod yn ecolegydd erioed, ac rydw i bob amser wedi dweud wrth bobl sydd wedi gofyn wrtha i fy mod i wedi bod yn hynod o lwcus i wneud yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud. Nid yw llawer o bobl yn cael y cyfle hwnnw.

LT: 

 A gwybod beth oeddech chi eisiau ei wneud. 

AL: 

 A gwybod beth, dwi erioed wedi, doedd byth amser pan nad oeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gwneud hyn. Mae'n rhyfedd oherwydd daeth y dyhead o unman. Technegydd fferyllfa oedd fy mam i. Sarsiant yn yr RAF oedd fy nhad i. Ac felly does dim rhyw hanes o fywyd gwyllt yn y teulu, fel petai.  

 Ond cefais i fy magu ger Rutland Water, sydd bellach yn warchodfa bywyd gwyllt anhygoel. Ond rydw i'n cofio'r dyffryn hwnnw pan gafodd ei foddi yn ôl yn y ’70au, felly roeddwn i wedi ymddiddori mewn hynny, rydw i’n credu, roedd gen i le i fynd iddo. Fy swydd gyntaf erioed oedd sefyll wrth y giât yn cymryd tocynnau oddi wrth ymwelwyr yng ngwarchodfa natur Rutland Water. Ond, ie, mae mae fy mryd i wedi bod ar wneud hyn erioed. 

 Fy ngyrfa i… fel llawer o bobl, roeddwn i'n cael trafferth cael swydd barhaol ym maes cadwraeth natur. Felly roedd yna gryn dipyn o simsanu pan feddyliais i, wel, fe wnes i gais am y swydd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ôl yn '92, a gwnes i drafod hyn â fy ngwraig, a dywedon ni, wel, os na fyddai’n cael y swydd hon, roedden ni’n ymwybodol y byddai angen swydd barhaol arnom ni er mwyn gallu bwrw gwreiddiau a dechrau ein bywydau fel petai. Dywedais i, iawn te, byddwn i'n ailhyfforddi pe bai angen, byddwn i'n dod yn barafeddyg neu rywbeth fel 'na. Ond ces i’r swydd a dyna ’ny. Felly, ie, mae’n rhywbeth oeddwn i eisiau ei wneud erioed. 

LT: 

 Felly Rutland Water, ai chwarel oedd honno? 

AL: 

 Nage, mae'n gronfa ddŵr fawr sy'n cael ei rheoli gan Anglian Water, rydw i’n credu. Dau ddyffryn mawr yn Rutland a gafodd eu boddi i ddarparu dŵr i Ddwyrain Canolbarth Lloegr, ac fel rhan o'r datblygiad hwnnw, fe wnaethon nhw greu gwarchodfa natur eithaf sylweddol ar un pen i'r gronfa ddŵr. A bellach, ch’mod, mae ganddo bob lythyren safle dynodedig dan haul – mae'n AGA, mae'n SoDdGA, mae ganddo bopeth. Miloedd ar filoedd o adar y dŵr bob blwyddyn. Mae’n safle anhygoel. Ond dyna lle dechreuais i ac rydw i’n dychwelyd nawr ac yn edrych ar y coetir a dwi’n credu gwnes i blannu'r goeden honno pan oeddwn i'n blentyn. 

LT: 

 Pan ydych chi’n ystyried y gwahanol rolau rydych chi wedi'u cael, a oes un swydd, o blith pob swydd arall, a ffefrir gennych? 

AL: 

 Oes, fe wnes i fwynhau rheoli’r tîm cymorth SoDdGA yn fawr iawn am ryw ddeng mlynedd, hyd at ddiwedd fy nghyfnod yn Nghyngor Cefn Gwlad Cymru. Oherwydd bod gennyn ni swydd wych, fe wnaethon ni grwydro o gwmpas De Cymru yn datrys problemau ar SoDdGAau ac roedd gen i dri aelod o staff hynod ymroddedig a brwdfrydig i'w rheoli. Ac, ie, roedd yn swydd amrywiol iawn mewn gwirionedd. Roedden ni'n gallu teithio, gan gwmpasu’r ardal rhwng Sir Benfro a Gwent. Felly fe wnaethon ni lawer o dasgau gwahanol ym mhobman, ch’mod. ‘Beth yw’r broblem gyda fy SoDdGA?’ Neu ‘Allwch chi fy helpu gyda’r cytundeb rheoli hwn?’ Neu lawer o bethau fel, ‘Wel, allwch chi ddweud wrtha i a yw’r rhywogaeth hon yma o hyd?’ Y math yna o beth. 

 A dyna oedd yr oes aur, mewn gwirionedd. Yn y bôn, roedden ni fel rhyw fath o ddarparwr gwasanaethau i'r timau lleol. Felly, bydden nhw’n dweud, wel, mae yna bethau penodol y mae angen i ni eu gwybod am ein safleoedd nad oes gennyn ni’r arbenigedd i'w gwneud. A bydden nhw’n ein galw ni i mewn a bydden ni'n ei wneud drostyn nhw. Felly, roedd yn swydd wych. 

LT: 

 Oes gennych chi stori a ffefrir gennych chi o weithio yn y maes? 

AL: 

 O, nawr te. 

LT: 

 Neu a gawsoch chi eich anfon i unrhyw le wallgof? 

AL: 

 Y SoDdGA cyntaf i mi ei ddynodi erioed oedd… dyma'r math o le oedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Fyddwch chi byth yn gallu gwneud rhywbeth tebyg nawr.  

LT: 

 Iawn.  

AL: 

Ond rydyn ni'n siarad am ddechrau’r ’90au nawr. Ac roedd fy rheolwr llinell braidd yn… roedd yn naturiaethwr gwych ac yn rheolwr llinell da iawn, ond roedd hefyd yn dipyn o ddiawl gwirion. 

 A'r SoDdGA cyntaf i mi ei ddynodi, mae bellach yn warchodfa Plantlife, ond ar y pryd roedd yn eiddo i hen wraig a oedd yn byw, a dweud y gwir, mewn twll o le. Roedd gan y tŷ hwn loriau pridd. A byddwn i'n mynd i'w gweld hi ac yn siarad â hi am y ddôl ryfeddol hon oedd ganddi. 

Ac yn y pen draw fe wnaethon ni ei ddynodi, ac roedd popeth yn iawn, ac yn y pen draw daeth yn warchodfa PlantLife, fel dywedais i. Ond daeth hi'n eithaf drwg-enwog yn y wasg leol oherwydd ei bod hi wedi, beth yw'r gair, rhyw fath o ffrwythloni artiffisial… Pan fydd gennych chi fabi tiwb profi, fel petai. 

LT: 

O, IVF ife? 

AL: 

 Roeddwn i jyst yn chwilio am… y term go iawn... Beth bynnag, cafodd hi fabi tiwb profi pan oedd hi'n eithaf hen. Ac roedd fy rheolwr llinell i, wrth gwrs, yn hapus ein bod ni wedi llwyddo i gael statws SoDdGA i’r safle heb wrthwynebiad. Yn fuan wedyn, mae hi'n rhoi genedigaeth i'r babi hwn. A dywedodd fy rheolwr llinell i wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru, er mwyn cael y SoDdGA wedi'i ddynodi… 

LT: 

 Rydw i'n gallu gweld ble mae hyn yn mynd! 

AL: 

 Ie, roeddwn i wedi cael plentyn gyda'r fenyw hon.

LT: 

 [Chwerthin] 

AL: 

 Ac, ie, fe rannodd y stori hon â phawb. Ac, fel dywedais i, fyddech chi byth yn gallu gwneud y fath beth â hynny heddiw.  

LT: 

 Felly oedd pobl wir yn credu’r hanes? 

AL: 

 O, ie, wel, dwi'n credu, mewn ffordd, doedd dim ots mewn gwirionedd p’un oedd pobl yn ei gredu ai peidio. Roedd e'n meddwl mai jôc go ddoniol oedd hi. 

LT: 

 Mae'n eithaf doniol, a bod yn deg. 

AL: 

 Digon wir. Dyna'r math o amgylchedd roedden ni'n gweithio ynddo, mewn gwirionedd. Fyddech chi ddim yn gallu gwneud y fath beth heddiw. 

LT: 

 Ie, mae hynny mor wahanol i'r hyn roeddwn i'n ei ddisgwyl. 

 Iawn, pa agwedd ar y swydd ydych chi'n meddwl sy'n synnu pobl fwyaf? 

AL: 

 Efallai yr hyn mae pobl yn ei ddychmygu, yn sicr gyda monitro SoDdGA, yr hyn maen nhw'n ei ddychmygu yw eich bod chi'n crwydro o gwmpas y lleoedd rhyfeddol hyn gan ddweud, “Helô adar, helô coed”, ac yn gwneud dim byd ond crwydro o gwmpas, a dydyn nhw ddim yn deall yr holl ymdrech mae angen ei gwneud i gasglu data. 

 Yr hyn maen nhw'n ei weld yw eich bod chi'n crwydro o amgylch safle ac yna bydd y perchnogion yn eich gadael i fwrw iddi, ac nid ydyn nhw'n eich gweld chi'n cofnodi cwadrat ar ôl cwadrat ar ôl cwadrat. Yr un peth dro ar ôl tro. Dyna realiti’r broses casglu data yn y bôn. Mae angen maint sampl arnoch chi er mwyn cael canlyniad ystyrlon, ond mae hynny'n golygu ailadrodd, ac mae’n rhaid i chi wneud hynny. Ac felly dwi ddim yn credu bod pobl yn gwerthfawrogi'r math o ailadrodd a'r cynllunio sydd y tu ôl i hynny. Dydych chi ddim yn edrych ar ba blanhigyn bynnag rydych chi’n dod ar ei draws. Rydych chi yno am reswm penodol, sef edrych ar bethau penodol iawn y mae angen i chi eu gwybod. A dydw i ddim yn credu bod pobl yn gwerthfawrogi'r gwaith caled o gasglu data, fel y dywedais i gynt. Ac yna'r gwaith dadansoddi y mae'n rhaid i chi ei wneud wedyn er mwyn troi'r data hynny’n ganlyniad ystyrlon. 

 Oherwydd rydw i'n cofio perchnogion oedd yn falch iawn o'u safleoedd ac yna fe wnaethon ni eu beirniadu’n hallt. Ac roedden ni'n meddwl, nid yw hyn yn edrych yn dda iawn, mae problemau go iawn yma. Dydyn nhw ddim yn pori’r tir o gwbl. Y perchnogion hyn, rydw i’n meddwl amdanyn nhw, roedden nhw hefyd, mewn ffordd, bron yn rhy falch o'u safle. Felly fydden nhw ddim yn ei reoli. Fydden nhw ddim yn ei bori. Roedden nhw'n meddwl, rhaid i ni adael iddo fod. Ac roedd yn lle gwych, ond roedd yn mynd i waethygu oherwydd nad oedden nhw'n ei reoli. A'r hyn oedd ei angen mewn gwirionedd oedd buches o wartheg i fynd drwyddo a phori’r tir. A phan ddywedon ni wrthyn nhw, nid yw'r data yn dweud celwyddau, ch’mod, roedden nhw'n eithaf blin, a dweud y gwir. Rydw i'n cofio eu bod nhw'n eithaf blin ar y pryd. Roedden nhw'n teimlo eu bod nhw wedi mynd trwy wahanol gamau: dicter, gwadu, beth bynnag, a’r cam olaf, derbyn y sefyllfa.  

LT: 

 Ydych chi'n teimlo bod hynny wedi newid cryn dipyn yn eich gyrfa, yr agwedd pori er lles cadwraeth ar bethau? Oherwydd mae hynny'n ymddangos fel petai’n rhan eithaf mawr o'r hyn rydyn ni'n ei wneud ar hyn o bryd. 

AL: 

 Ie, ie. Mae'r hyn rydyn ni'n ei wybod am sut mae pori yn dylanwadu ar safleoedd wedi newid llawer o ran, byddem ni bob amser yn ei fframio yn nhermau, wel, dim ond pori traddodiadol. Beth mae hynny'n ei olygu? Y dyddiau hyn rydyn ni’n llawer mwy penodol ynglŷn â beth mae hynny'n ei olygu, y gwahanol fathau o dda byw a'r math yna o beth. 

 Ond, ie, ac mae wedi dod yn fwy, wel, alla i ddim siarad am yr hyn sy’n digwydd heddiw oherwydd rydw i wedi bod allan o'r maes ers tair blynedd, ond yn sicr erbyn i mi adael roedd hi'n mynd yn fwyfwy anodd cael y math cywir o anifeiliaid yn y math cywir o leoedd. Dydy ffermwyr ddim eisiau trin gwartheg. Maen nhw'n fawr, maen nhw'n beryglus, mae defaid gymaint yn haws. 

LT: 

 Ie. Beth fyddech chi'n dweud yw'r heriau anoddaf rydych chi wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd? 

AL: 

 Treuliais i ddwy flynedd fel, ces i ddyrchafiad ac es i i swyddfa Dolgellau a doeddwn i ddim yn barod am hynny o gwbl. Hon oedd fy swydd reoli fawr gyntaf a doeddwn i ddim yn barod o gwbl ar gyfer y gwrthdaro rhyngbersonol a ddigwyddodd yn y swyddfa honno. Roedd sawl cymeriad anodd iawn yn y swyddfa. Ac roedd yn gyfnod anodd iawn, i mi ac, roedd gennym ni blentyn dwy oed, roedd yn rhaid i Beth ddod i Ddolgellau hefyd, yn y lle hwn nad oedd hi'n ei adnabod, nad oedd hi'n cyfarwydd ag e. Roedd hi'n feichiog, felly cafodd hi fabi tra oedden ni yno. Felly, roedd yn heriol gartref, ond roedd y swyddfa hefyd yn hynod heriol. Llawer o gymeriadau anodd iawn, pigog iawn, llawer o wrthdaro rhyngbersonol doeddwn i ddim gyda’r profiad i ddelio ag e, mewn gwirionedd, gan mai hon oedd fy swydd reoli gyntaf. Felly roeddwn i wedi taflu fy hunan i mewn i’r sefyllfa honno.  

LT: 

 Oedd hynny yn CNC? 

AL: 

 Roedd hynny yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru. Felly, roedd yn anodd iawn. Ac edrychodd Beth a minnau ar ein gilydd ac ar ôl, dim hyd yn oed mis, roedden ni'n gwybod ein bod ni wedi gwneud camgymeriad ofnadwy. Felly, yna dim ond cwestiwn oedd o ddyfalbarhau am gyfnod priodol o amser nes i mi allu gadael. Felly arhosais i yno am ddwy flynedd. Ond roedd yn anodd iawn, iawn. 

LT: 

 Hyd yn hyn yn y swydd rydw i wedi'i chael, mae pawb rydw i wedi'u cyfarfod â nhw wedi bod yn hyfryd. Fe wnaeth hynny fy synnu i. 

AL: 

 Mae pawb yn hyfryd. Yn ôl pob golwg, y swyddfa benodol honno oedd ag enw drwg, a doeddwn i ddim yn ymwybodol o hynny ar y pryd, neu fel arall fyddwn i byth wedi cynnig am y swydd. 

LT: 

 Ie. 

AL: 

 Ond roedd ganddi enw drwg am fod yn swyddfa anodd iawn. Roedd y cymeriadau yn y swyddfa yn anodd iawn. 

LT: 

 Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr, y bobl rydych chi'n gweithio gyda nhw. 

AL: 

 Ie, yn hollol. Ac roedd, dydw i ddim am ei or-ddweud oherwydd roedd yn ddwy flynedd allan o 30 mlynedd. Felly, roedd yn brofiad unigryw iawn. Ond roedd yn gyfnod anodd iawn. Roedden ni'n meddwl, Duw Duw, rydyn ni newydd wneud y camgymeriad ofnadwy hwn yma. Felly fe arhoson ni'n ddigon hir cyn gadael, ac yna fe wnaethon ni adael a dychwelyd i'r De eto.  

Rydw i'n dal i gael, yn achlysurol iawn, yn gyrru i’r Gogledd, am ryw reswm, rydw i'n dal i gael teimlad rhyfedd, wrth fynd trwy’r adwy rydych chi'n mynd drwyddi wrth i chi deithio i fyny i Ddolgellau. Ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, mae'n chwerthinllyd, on’d yw hi? Ond dyna ni. Ond, ie, roedd yn gyfnod gwael iawn. 

LT: 

 Iawn, ar yr ochr arall felly, pa gyflawniad ydych chi fwyaf balch ohono? 

AL: 

 Rydw i’n credu y gallwn edrych ar y safleoedd gwarchodedig a gyflwynwyd gennym i'r cyngor a dweud ein bod wedi achub hynny. Rydw i'n meddwl am safle coetir a oedd i fod i gael ei ddymchwel ar gyfer datblygiad tai, a phan edrychon ni arno, roedd yn goetir hynafol godidog. Roedd wedi cael ei ailblannu'n rhannol â chonwydd, a dyna pam roedd pobl yn edrych arno ac yn meddwl, na, mae'n ddi-werth. Ond wrth edrych ar y llawr gwaelod, roedd y llawr gwaelod yn gwbl gyfan oherwydd eu bod nhw wedi plannu conwydd collddail, felly roedden nhw'n gollwng eu nodwyddau fel bod y golau’n dal i dywynnu drwodd. Nid coedwig gonwydd dywyll oedd hi. Beth bynnag, coetiroedd y Barri oedden nhw, ac roedd y perchennog yn mynd i'w troi'n ystad o dai. Fe wnaethon ni ei ddynodi ac roedd yn gyfarfod cyngor eithaf anodd, ond mae'n dal yno ac mae'n dal i fod yn goetir. Ac rydych chi'n meddwl, wel, ie, fi wnaeth hynny. Roedd hynny'n wych. 

LT: 

 Mae'n dda clywed bod hynny'n gweithio. 

AL: 

 Mae'n gweithio, ydy, yn bendant. Mae'n dda. Mae SoDdGAau yn dda am atal y math yna o ddifrod trychinebus. Daw'r her pan fydd angen i chi reoli safleoedd, wrth gwrs. Dyna lle mae'r problemau'n dechrau. 

LT: 

 Ie, oherwydd rydych chi bob amser yn clywed y straeon arswyd am leoedd yn cael eu rhwygo i lawr pan na ddylai fod wedi digwydd. 

AL: 

 Ie, ie. Neu, ch’mod, rydych chi'n mynd yn ôl ac maen nhw wedi cael llwythi o wrtaith wedi’u dympio arnyn nhw. Mae coetiroedd braidd yn anodd eu dinistrio o ran hynny. Allwch chi ddim, maen nhw'n datblygu mor araf fel na allwch chi eu difrodi’n arw, heblaw am adeiladu arnyn nhw. Hyd yn oed os byddwch chi'n torri'r holl goed i lawr, mae coetiroedd yn mynd trwy'r cylchdroeon hynny.

LT: 

 Sut mae'r maes cadwraeth wedi esblygu ers i chi ddechrau? 

AL: 

 Iawn. Taflwch fwy o bren ar y tân. Mae wedi newid llawer. Rydw i'n cofio dweud wrth rywun yn fy arddegau na fyddai angen i mi wybod dim byd am gyfrifiaduron byth oherwydd fy mod i'n mynd i weithio gyda bywyd gwyllt. Fyddai byth angen i mi wybod dim byd am hynny. Nid un o fy rhagfynegiadau gorau i. 

 Mae'r wynebau wedi newid, mae'r staff wedi newid. Dechreuais i ym maes cadwraeth, i ddechrau, ddiwedd yr 80au, ac roedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion i raddau helaeth. Ystrydeb oedd hi, ch’mod, dyn â barf a chi mewn siwmper Aran[JG1]  wedi'i gwau hyd crys polo neu rywbeth fel 'na. Dyna sut olwg oedd ar bawb. Prin iawn y byddech chi byth yn cwrdd ag unrhyw fenywod yn y maes. Erbyn hyn, mae wyneb cadwraeth wedi newid nawr – yn llythrennol. Yn sicr, erbyn i mi adael, a oedd mwy o staff benywaidd na gwrywaidd? O bosib. 

LT: 

 Yn sicr, mae hynny’n wir erbyn hyn. 

AL: 

 Ac felly mae'r wyneb hwnnw wedi newid yn llwyr, sy'n beth da. Ond mae cyfansoddiad y bobl wedi newid yn llwyr. Mae'r swydd hefyd, wrth gwrs, wedi dod yn llawer mwy technolegol. Rwy'n poeni nad yw staff yn mynd allan cymaint ag y dylen nhw ei wneud. 

 Pan ddechreuais i fy swydd gyntaf yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru, y rheolwr llinell roeddwn i'n siarad amdano, roedd e'n gymeriad a hanner. Doedd e ddim yn gwybod mewn gwirionedd fy mod i wedi cael fy mhenodi. Felly pan gyrhaeddais i, dywedodd, ‘Pwy wyt ti?’ ‘Fi yw dy gynorthwyydd newydd.’ ‘O, iawn.’ 

Roedd yn gyfnod gwahanol iawn. Roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru newydd ddod allan o gyfnod y Cyngor Gwarchod Natur. Gweision sifil oedden nhw, dynion oedd yn gwisgo teis. A beth bynnag, doedd e ddim yn gwybod beth i'w wneud â fi. Felly, dywedodd yn y bôn, iawn, dyma'r holl SoDdGAau yn Sir Gaerfyrddin, treuliwch y chwe mis nesaf yn mynd o'u cwmpas nhw i gyd. Ewch o gwmpas nhw i gyd a dewch i'w hadnabod nhw i gyd. 

LT: 

 Ewch ati. 

AL: 

 Ie, a ch’mod, dyma gar. Dyma gar, gallwch chi gael y car hwnnw, i ffwrdd â chi a dewch yn gyfarwydd â'r holl safleoedd. Allwch chi ddychmygu hynny'n digwydd heddiw? Felly, mewn rhai ffyrdd, mae’n ymddangos bod gennym ni lai o dechnoleg, ond rhywsut roedd yn ymddangos fel petai mwy o amser gennym ni.

 Tybed a oedd wedi fy anfon i ffwrdd am chwe mis er mwyn rhoi amser iddo feddwl am beth ddiawl i'w wneud â fi. Ond, wrth edrych yn ôl, cefais ryddid rhyfeddol i edrych o gwmpas a chael fy nhalu i'w wneud. Mae'n anhygoel. Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw. Fyddech chi byth yn cael gwneud hynny heddiw. 

 Er bod y swydd, rydych chi'n meddwl bod yr holl dechnoleg hon wedi gwella pethau, rhywsut rydym ni'n ymddangos fel petawn ni’n treulio mwy o amser o flaen sgriniau cyfrifiadur nag yr ydyn ni yn y maes. Mae hynny'n fy mhoeni i ychydig. Wedi dweud hynny, rydw i’n credu bod safon y staff, y pwysau rydyn ni'n eu rhoi arnyn nhw pan maen nhw'n cael eu penodi gyntaf, yn llawer mwy nag unrhyw beth a brofais i. Rydw i'n meddwl ein bod ni'n mynnu llawer mwy gan ein pobl ifanc. 

 Wrth edrych yn ôl, pe bawn i'n cael fy nhrawsblannu’n 25 oed i'r maes modern, byddai'n her fawr, dwi'n meddwl. Efallai ein bod ni’n ei dderbyn, bod pobl yn ei dderbyn oherwydd mai dyna'r norm bellach, mae'n debyg. Ond rydw i’n credu ein bod ni'n mynnu llawer mwy ganddyn nhw.

LT: 

 Dw i'n meddwl dyna pam dw i mor ffodus i fod wedi cael y swydd hon, oherwydd mae'n fy hyfforddi i fel petai. Nid yw'n disgwyl fod mod i’n gwybod popeth ar unwaith. 

AL: 

 Na, mae pobl yn cael eu taflu i mewn ac maen nhw'n cael targedau enfawr ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud hyn ac mae'n rhaid iddyn nhw wneud y llall ac maen nhw'n gorfod ymdopi â’r holl bethau hyn mewn ffordd nad oedd yn rhaid i fi erioed. Roedd yr asesiadau blynyddol yn debyg i, ‘Sut mae'n mynd?’ ‘Ie, mae'n iawn.’ ‘Iawn felly, gadewch i ni siarad am rywbeth arall.’ Felly, ie. 

LT: 

 Oes unrhyw newidiadau rydych chi'n llawn cyffro amdanyn nhw ym maes cadwraeth? 

AL: 

 Mae gan y dechnoleg newydd bethau aruthrol, fel DNA, gan ddefnyddio DNA at wahanol ddibenion wrth fonitro a hefyd delweddu lloeren. Pan oeddwn i'n gweithio, roedd math perffaith o system delweddu lloeren bum mlynedd i ffwrdd ac roedd bob amser yn mynd i fod bum mlynedd i ffwrdd. Ond gallwch chi ddychmygu sefyllfa nawr lle rydyn ni wedi ein hyfforddi cystal a bod yr wybodaeth lloeren mor dda fel bod rhywun fel chi'ch hun yn dod i mewn fore Llun ac rydych chi'n cael rhybudd ar unwaith bod tân wedi bod ar un o'ch SoDdGAau oherwydd ein bod ni wedi'i godi o'r arwyddion o'r lloeren. Rydych chi'n gwybod ar unwaith beth sydd wedi digwydd felly gallwch chi fynd allan i'w wirio, neu mae'r cae hwnnw'n edrych yn llawer gwell nag yr oedd y llynedd. Ewch allan i gael golwg yn lle gobeithio y bydd rhywun yn crwydro allan yna ac yn dod ar ei draws. Ac rydw i’n credu bod y pethau DNA hefyd yn rhoi cyfleoedd inni gasglu gwybodaeth am safleoedd mewn ffyrdd na allen ni byth wedi’u gwneud yn y gorffennol. 

 Felly, unwaith, eto gallech chi ddychmygu sefyllfa lle mae angen i ni edrych ar nifer y, ch’mod, beth yw'r gymuned planhigion ar y safle hwn neu a yw'r rhywogaeth benodol hon yn bresennol ai peidio? Felly, dychmygwch ei fod yn rhyw anifail di-asgwrn-cefn dyfrol anhysbys, bod angen arbenigwr go iawn arnoch i allu ei adnabod. Yn lle hynny, rydych chi'n mynd allan, yn cymryd sampl dŵr ac yn dilyniannu’r dŵr. 

 Ydy'r DNA yno? Ydy eich rhywogaeth yno o hyd ai peidio? Hynny yw, mae hynny'n aruthrol o ran ein rhyddhau ni o'r math yna o dagfa dacsonomegol yr oedden ni’n ei hwynebu oherwydd dim ond, ch’mod, mae yna rhyw anifail di-asgwrn-cefn neu’i gilydd a dim ond un unigolyn yn y wlad sy’n gallu ei adnabod ac mae hi'n 80 oed. Ch’mod, rhywbeth fel 'na. Os gallwn ni ei harneisio yn y ffordd gywir, rydw i’n credu bod cyfleoedd aruthrol. 

 Gan fynd ymlaen o hynny, gallech chi feddwl, ac efallai fod hyn yn beth da neu efallai ddim, dyma'r dyfodol rydych chi'n mynd i'w wynebu, ond beth sy'n digwydd pan fyddwn ni'n cyfuno, oherwydd roeddwn i'n sôn am fynd o gwmpas, y gwaith caled o gasglu data, beth sy'n digwydd pan allwch chi gyfuno deallusrwydd artiffisial â robot a all fynd allan ar y safle? Mae gennym ni eisoes offer deallusrwydd artiffisial a fydd…Mae gen i e ar fy ffôn i, mae'n adnabod rhywogaethau i mi. 

 Beth sy'n digwydd pan allwch chi gyfuno robot a all fynd dros dir garw neu nad oes angen iddo lanio hyd yn oed, gallai fod yn drôn gyda deallusrwydd artiffisial. Gallwch fynd allan a monitro'r safle heb hyd yn oed ymweld ag e. Meddyliwch ble bydd o ymhen 5, 10, 15 mlynedd, pan fyddwch chi'n gallu anfon drôn dros safle a bydd yn mynd allan ac yn cyfrif y planhigion. Ch’mod, gall adnabod y planhigion, gall fynd allan a bydd yn cyfrif beth bynnag. Hynny yw, planhigion fel arfer ydyn nhw, ond gallai fod yn unrhyw beth. Mae hynny'n gyffrous mewn rhai ffyrdd, ond rwy'n poeni am erydiad sgiliau maes a allai ddeillio o ganlyniad i hynny. 

LT: 

 Mae, fel gwnaethoch chi newydd ei ddweud, am yr arbenigwr o bosibl yn eu 80au, rydw i wedi canfod bod cryn dipyn o'r arbenigwyr yn heneiddio, ac felly’n gadael y maes. 

AL: 

 Iawn, te. 

LT: 

 Ond nid yw pobl newydd yn cael eu hyfforddi yn yr un pethau. A dydych chi ddim yn gwybod sut i gael yr hyfforddiant weithiau. 

AL: 

 Na, ac weithiau, dw i'n meddwl, bod yna bobl ifanc allan yna sy'n naturiaethwyr da iawn, iawn. Ond ydyn ni'n eu denu i'r maes? Ydyn nhw'n gwneud pethau eraill? Ydyn nhw'n gwneud arian mewn mannau eraill ac yn ei wneud fel hobi? Roedd llawer o Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn dibynnu ar yr arbenigedd a gynhyrchwyd gan arolwg cynefinoedd Cam 1 a Cham 2 a hyfforddodd y genhedlaeth hon o fotanegwyr ifanc sydd bellach i gyd yn ymddeol. 

Mae cael pobl ifanc i mewn a'u hyfforddi yn anodd, ond mae llawer o'r arbenigedd hwnnw'n cael ei hunan-gynhyrchu. 

Mae angen, a dweud y gwir, angen mwy o gîcs arnoch chi. Pobl sy'n barod i, pobl sy’n cael amser da yn eistedd i lawr gyda microsgop ac edrych ar ryw chwilen na wyddys llawer amdani. Ac ni fydd hyfforddiant yn eich helpu gyda hynny. Bydd o gymorth i ryw raddau, ond dim ond rhan o'r ffordd y bydd o'n eich helpu chi. Mae'n rhaid bod gennych awydd i’w wneud hefyd. 

LT: 

 Ydych chi'n credu bod agweddau'r cyhoedd tuag at gadwraeth wedi newid? 

AL: 

 Wel, yn hollol, ie. Pan oeddwn i yn yr ysgol, ac rydyn ni'n sôn am pan oeddwn i yn yr ysgol uwchradd, hyd y gwyddwn i, fi oedd yr unig un yn yr ysgol oedd ag unrhyw ddiddordeb mewn bywyd gwyllt. Mae pobl yn tueddu i ramantu'r gorffennol. Rydw i'n meddwl, wel, ch’mod, roedd yr holl blant allan yn adeiladu cuddfannau ac yn cymuno â natur. Nid oedd hynny’n wir o gwbl. Nid oedd hynny’n wir o gwbl. Fi oedd yr unig blentyn yn fy ysgol oedd â diddordeb yn y fath bethau.  

 Felly, yn y byd sydd ohoni, wrth gwrs, ch’mod, mae’r fath bobl â David Attenborough, Chris Packham, pobl fel 'na sydd wedi dod â’r pwnc i lawer mwy o bobl. Felly mae llawer mwy o bobl yn pryderu am yr amgylchedd. Felly, hyd yn oed, ch’mod, fy mhlant sydd yn eu 30au a'u 20au nawr, does yr un ohonyn nhw am fynd allan i gyfrif gwyfynod. Dyna beth mae tad yn ei wneud ac mae hynny'n ddiflas iawn. Ond maen nhw ill dau yn pryderu am yr amgylchedd, os liciwch chi, ynglŷn â materion amgylcheddol ehangach. 

Felly, rydw i’n gweld, yn enwedig ymhlith ein pobl iau, fod llawer mwy o ymwybyddiaeth bellach. P'un a fydd hynny'n goroesi'r math o oes o boblyddiaeth rydyn ni'n dechrau ei brofi, roedd o leiaf trwch y gwleidyddion yn cefnogi’r amgylchedd neu, o leiaf, yn esgus ei gefnogi, ac yn meddwl ei fod yn beth da yn gyffredinol. Dydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod y consensws hwnnw'n bodoli mwyach. Felly, p'un a fydd yr ewyllys da hwnnw tuag at yr amgylchedd yn parhau yn y dyfodol, rydyn ni wedi cymryd yn ganiataol bod ymwybyddiaeth amgylcheddol yn cynyddu a byddai bob amser yn parhau i gynyddu. Efallai na fydd yn gwneud hynny, ond bydd yn rhaid i ni weld. 

 Hynny yw, pethau fel newid hinsawdd. Wel, Duw, dw i wedi gyrru yma heddiw, mae'n bwrw hen wragedd a ffyn, mae llifogydd ym mhobman. Bydd amser yn dod lle na fydd modd ei wadu’r sefyllfa mwyach, ond yna bydd pobl yn dweud, o, wel, mae'n rhaid i ni fyw gyda hi. Felly, ie, mae'n ddrwg gen i, roedd hwnna'n ateb braidd yn hirwyntog, ond ie, rydw i'n meddwl bod ymwybyddiaeth amgylcheddol wedi codi. Ond nid o reidrwydd diddordeb mewn astudiaethau natur, os ydych chi'n deall beth sy da fi. 

LT: 

 Ie, mae'n gwneud synnwyr. Sut fyddech chi'n dweud bod y gwaith hwn wedi dylanwadu arnoch chi fel unigolyn, nid yn unig fel gweithiwr proffesiynol? Mae'n ddrwg gen i, mae'n gwestiwn anodd. 

AL: 

 Na, dwi'n meddwl, dwi'n golygu, mi ydych chi'n edrych ar bethau mewn ffordd wahanol. Wel, dw i'n meddwl ei fod, dw i wedi anghofio'r dyfyniad, roedd yn llyfr Americanaidd ac rydw i wedi anghofio'r awdur nawr, ond mae'n sôn am ecolegwyr yn ei chael yn anodd oherwydd eich bod chi'n gweld pethau nad yw pobl eraill yn eu gweld. Felly, er enghraifft, iawn, cymerwch, er enghraifft, y llun sydd y tu ôl i chi nawr. 

LT: 

 Iawn? 

AL: 

 Iawn. Felly, i'r bobl gartref, y darlun yw llyn a llethr ucheldirol. Gallech chi edrych ar hynny, byddai llawer o bobl yn edrych ar hynny ac yn dweud pa mor brydferth yw e. Ond rydw i’n edrych ar hynny ac yn dweud bod y lle yna wedi cael ei ddifetha'n llwyr gan bori. Felly rydych chi'n gweld yr amgylchedd mewn ffordd wahanol. Rydych chi'n ei weld yn amlach, efallai ei fod yr un peth ag y byddai arbenigwr mewn celf yn edrych ar ffugiad ac yn dweud nad dyna'r peth go iawn. Mae'n eich siapio chi mewn ffordd wahanol, mae'n debyg. 

 Gall ddifetha cyfresi teledu, gyda llaw. Er enghraifft, pan fyddwch chi'n gwylio rhyw raglen deledu ac mae trac sain yn y cefndir, gallwch chi glywed aderyn yn canu yn y cefndir ac rydych chi'n meddwl, na, does dim ffordd y byddai'r aderyn hwnnw mewn gwirionedd ar y boncyff hwnnw, yn y lle hwnnw, ar y pryd hwnnw.  

Ond, ie, dwi'n meddwl eich bod chi'n gweld pethau nad yw pobl eraill yn eu gweld. A Sand County Almanac, dyna oedd y llyfr. Rydw i’n siŵr ei fod yn ddyfyniad o hynny. Ond hefyd, rydych chi'n ceisio deall y pwysau sydd ar bobl eraill hefyd, hyd yn oed os nad ydych chi o reidrwydd yn cytuno â nhw neu'n eu cael yn eithaf rhwystredig.  

Galla i ddeall pam mae ffermwyr ucheldir Cymru yn teimlo'r pwysau. Does gen i ddim amser i’r barwniaid o ffermwyr yr iseldir ’ma, dim ond miliwnyddion ydyn nhw sy'n eistedd ar symiau enfawr o arian oherwydd yr holl dir maen nhw’n perchen arno. Ond os ydych chi'n crafu bywoliaeth yn yr ucheldiroedd, mae'n rhaid ei fod yn fodolaeth anodd iawn. A beth ydych chi'n ei wneud os ydych chi'n gwerthu’r fferm? Ble ydych chi'n mynd? Beth ddylech chi ei wneud? 

Felly rydw i’n gobeithio ei fod wedi rhoi gwerthfawrogiad i mi o'r bywydau y mae pobl eraill yn eu byw, hyd yn oed os nad ydw i o reidrwydd yn cytuno â'r hyn maen nhw wedi'i wneud. 

LT: 

 Ydych chi'n meddwl bod hynny'n rhannol oherwydd gweithio gyda thirfeddianwyr, cyfarfod â ffermwyr a’r fath bethau? 

AL: 

 Ie, ie, mi ydw i. Hynny yw, roeddwn i bob amser yn arfer dweud wrth y staff iau nad oedd amser a dreuliwyd yn siarad â thirfeddianwyr byth yn wastraff. Wrth gwrs, pan fyddwch chi'n iau, dydych chi ddim yn gwerthfawrogi hynny. Rydych chi'n cwrdd â thirfeddiannwr ac rydych chi am fynd ati i wneud y gwaith. Mae gennych chi swydd i'w gwneud ac rydych chi am negodi'r cytundeb rheoli hwn. 

 Ac fe gymerodd ychydig flynyddoedd i mi werthfawrogi hyn, ond pan gewch eich gwahodd i gegin rhywun, bydd te, bydd cacen, os ydych chi'n ddigon ffodus. Felly ble ydych chi? O ble ydych chi? Ydych chi'n briod? Oes gennych chi blant? Rhaid i chi fynd trwy 20 i 30 munud o sgwrs bersonol cyn i chi fwrw iddi. Ac mae hynny'n rhan o'r swydd. Mae meithrin y berthynas honno â chi fel unigolyn yn rhan bwysig o'r swydd. 

Byddai'n ddiddorol, mewn gwirionedd byddai'n ddiddorol edrych arno oherwydd, pan oeddwn i'n dweud bod y maes wedi'i ddominyddu gan ddynion yn ôl ar ddiwedd yr ’80au, dechrau'r ’90au, nawr mae llawer mwy o fenywod yn ei ddominyddu. A yw hynny'n cael canlyniadau gwell? Oherwydd gallech chi ddadlau na fydd tirfeddiannwr oedrannus piws yn cymryd menyw o ddifrif. Dydyn nhw ddim yn fodlon y bydd ‘rhyw ferch fach’ yn dod yma ac yn dweud wrtha i beth i’w wneud. Ar y llaw arall, gallech ddadlau bod rhyngweithiadau gwryw-gwryw yn tueddu i fod yn fwy gwrthdrawiadol a bod gan fenywod well synnwyr o ddelio â phobl a chael yr hyn maen nhw ei eisiau heb y gwrthdaro hwnnw.  

Felly, byddai'n ddiddorol gweld a oes gan hynny unrhyw effaith mewn gwirionedd ai peidio. I mi, bydd y buddion yn bendant yn drech nag unrhyw anfanteision canfyddedig oherwydd bod gweithlu mwy cytbwys ac amrywiol yn dod â barn a dulliau amrywiol. 

LT: 

 Pe bai unigolyn ifanc yn dweud wrthych chi eu bod nhw am fynd i mewn i faes cadwraeth, beth fyddech chi'n ei ddweud wrthyn nhw? A fyddech chi'n ei argymell fel gyrfa? 

AL: 

 Byddwn. Fel rydw i’n dweud, rydw i wedi bod yn hynod o ffodus. Yn bendant, byddwn i'n eu hannog. Ond rydw i'n meddwl bod yn rhaid i chi, i bobl ifanc yn benodol, fod y math yma o ddiwylliant contract sydd ganddyn nhw, nid bod ganddyn nhw, ond eu bod nhw'n byw ynddo, yn golygu ei bod yn anodd iawn oherwydd eich bod chi'n unigolyn ifanc, iawn, rydych chi am deithio o gwmpas, gweld y byd, ond mae’n cyrraedd amser lle rydych chi am geisio setlo i lawr a phrynu tŷ a byw eich bywyd, ch’mod, ac mae dod o hyd i swydd barhaol yn eithaf heriol. Mae'n iawn cael contract tair blynedd, ond allwch chi brynu tŷ ar gontract tair blynedd? 

Felly byddwn i'n bendant, byddwn i'n annog rhywun i'w wneud, ond byddai angen iddyn nhw fynd i mewn iddo gyda'u llygaid ar agor ychydig a derbyn efallai y gallai fod ganddyn nhw ychydig flynyddoedd anodd yn ei wneud i weithio nes iddyn nhw gael rhywbeth mwy pendant. 

Ond, o ie, wrth gwrs. Ch’mod, mae wedi bod yn dda iawn i fi. Alla i ddim cwyno. Rydw i'n meddwl bod gan bob gyrfa ei huchafbwyntiau a'i hisafbwyntiau. Fel rydw i wedi'i ddweud wrth bobl o'r blaen, o ran loteri bywyd, ces i docyn buddugol. Dyma'r cyfan roeddwn i am ei wneud erioed. 

LT: 

 Pa sgiliau a rhinweddau ydych chi'n meddwl y dylai pobl eu cael nad ydyn nhw fel arfer yn ymddangos ar CV? 

AL: 

 I ryw raddau, os ydych chi'n rhyngweithio â'r cyhoedd, mae'n rhaid i chi feddu ar sgiliau personoliaeth y mae angen i chi naill ai feddu arnynt neu allu eu ffugio'n argyhoeddiadol iawn. Os nad ydych chi mewn swydd sy'n wynebu'r cyhoedd, yna mae'r math yna o sylw manwl iawn i fanylion yn bwysicach. 

 Roeddwn i bob amser yn hoffi hynny yn achos pobl ifanc yn y maes a byddwn i'n dweud, ‘Wel, pa grŵp bywyd gwyllt sydd o ddiddordeb i chi?' Ac os dywedon nhw, ‘O ie, mae gen i ddiddordeb mawr mewn thripiau’ neu ‘Mae gen i ddiddordeb mawr mewn llwydni llysnafeddog.’ Ac rydw i’n meddwl mai dyna'r math o unigolyn y galla i delio â nhw oherwydd, os ydyn nhw’n gallu talu’r fath sylw i fanylion ac mae ganddyn y dyfalbarhad i wneud hynny, yna bydd y sgìl hwnnw'n trosglwyddo i feysydd eraill o'u gwaith. Felly, rydw i'n hoffi pobl sy'n gallu gwneud hynny. 

Ond, ar yr un pryd, os ydych chi mewn swydd sy'n wynebu'r cyhoedd, mae'n rhaid i chi allu delio â phobl yn effeithiol ac, mewn rhai ffyrdd, efallai nad yr unigolyn sy'n frwd dros lwydni llysnafeddog yw'r unigolyn gorau. Efallai eu bod nhw, ond y math o bersonoliaeth, byddwn i'n dweud, sy'n gwneud hynny nid yw o reidrwydd yr unigolyn sydd orau o ran delio â thorf o bobl neu unigolyn. 

LT: 

 Mae hynny'n rhywbeth rydw i'n ei chael yn eithaf anodd. Mae llawer ohonom, byddwn i'n dweud, yn y math hwn o faes ychydig yn niwrowahanol, yn ymddiddori'n fawr yn yr agwedd wyddonol ar bethau, ac yna mae’n disgwyl i chi ymgysylltu â phobl hefyd. Mae'n set hollol wahanol o sgiliau. 

AL: 

 Mae gen i fab awtistig, gwn yn union beth rydych chi'n ei olygu. Felly, ie, rydw i'n meddwl bod y maes yn denu math penodol o unigolyn ac mae'n rhaid i chi fynd a gwneud hynny. Felly, ie, mae yna'r mathau hynny o sgiliau meddal y mae eu hangen arnoch chi hefyd. 

LT: 

 Iawn, a chithau wedi ymddeol, sut olwg sydd ar eich perthynas â chadwraeth? Ydych chi'n dal yn rhan o'r broses? 

AL: 

 Ddim mewn gwirionedd. Hynny yw, wn i ddim, fe ysgrifennodd rhywun yn fy ngherdyn ymddeol neu rywbeth fel 'na, dywedon nhw, o, rydw i'n siŵr y byddwch chi ar bwyllgor yr Ymddiriedolaeth Natur leol ac yn rhoi amser caled i ni am rywbeth neu'i gilydd. Ac rydw i'n meddwl, diar, na, na, na. Yr holl bobl hyn, ch’mod, y bobl fel chi, y peth olaf y mae ei angen arnoch chi yw hen bobl fel fi yn dod i mewn ac yn dweud wrthych chi beth ddylech chi neu na ddylech chi fod yn ei wneud. Felly mae fy mherthynas â chadwraeth nawr yn eithaf pell yn y fath ffordd. 

 Dydw i ddim yn ymwneud â gwleidyddiaeth na rheolaeth, ch’mod, does gen i ddim diddordeb mewn bod ar y pwyllgor rheoli ar gyfer gwarchodfa natur benodol nac unrhyw beth felly. Does gen i ddim diddordeb yn hynny. Yr hyn rydw i'n ei wneud yw gwneud pethau rydw i'n eu mwynhau. Rydw i wedi gwneud ychydig o waith contract i helpu gyda'r pensiwn. Mae hynny'n cynnwys ochr hwyliog y swydd yn unig, yn fy marn i. Felly dydw i ddim yn gwneud unrhyw gynllunio, dydw i ddim yn ysgrifennu unrhyw adroddiadau. Rydw i'n mynd allan ac yn casglu data. Dyna'r cyfan rydw i am ei wneud. Dydw i ddim am ymwneud â gwleidyddiaeth, dydw i ddim am fod yn ysgrifennu adroddiadau. 

 Felly, yn bersonol, dydw i ddim eisiau, rydw i eisiau camu'n ôl. Rydw i wedi gwneud fy rhan i, chi sydd wrth y llyw nawr. Rydw i wedi cymryd rhan wirfoddol yn trefnu gwylwyr adar lleol i helpu gydag arolygon Ymddiriedolaeth Adareg Prydain. Ond dyna fi yn casglu pobl ac yn anfon negeseuon e-bost atynt a dweud mai dyma beth sy'n rhaid i chi ei wneud a gwneud i hynny ddigwydd. Does gen i ddim diddordeb mewn ymwneud â'r ochr wleidyddol. Does gen i fawr ddim o gysylltiad â phethau felly. Hoffwn gael digon o amser i fwynhau fy astudiaethau natur nawr. 

LT: 

Cwestiwn olaf felly. A fyddech chi'n dweud eich bod chi'n optimistaidd am y dyfodol? 

AL: 

 Rydw i'n meddwl bod yn rhaid i chi fod bob amser neu, fel arall, byddech chi'n meddwl, o, beth yw diben hyn neu’r llall? Roeddwn i'n arfer gwneud sgyrsiau gyrfaoedd ym Mhrifysgol Abertawe a dod i mewn a siarad am eich gyrfa a phethau fel hyn. A byddwn i bob amser yn dweud, mae gennym ni ddirywiad amgylcheddol, mae gennym ni newid hinsawdd a'r holl bethau hyn sy'n digwydd. Yr unig newyddion da yw bod gennym ni chi. Chi, y bobl ifanc, yw'r genhedlaeth sy’n ymgysylltu â'r amgylchedd fwyaf rydyn ni wedi'i chael erioed, llawer mwy na fy nghenhedlaeth i, waeth beth mae pobl yn ei ddweud.  

Felly, rydw i'n credu fy mod i'n optimistaidd am y dyfodol, ond rydw i'n credu y gallai pethau waethygu cyn iddyn nhw wella. Ond gallwch chi, gallwch chi weld hynny mewn gwleidyddiaeth, gyda phobl ifanc yn ymwneud llawer mwy â phethau fel y Blaid Werdd. Dydw i ddim yn gwneud pwynt gwleidyddol yma, rydw i ond yn dweud bod pobl ifanc yn llawer mwy agored i'r math yna o drafodaeth ac yn pryderu am y materion hynny ac maen nhw'n pryderu am faterion yn ymwneud â hawliau anifeiliaid, sy’n gorgyffwrdd. 

Felly, ie, rydw i'n meddwl bod yn rhaid i chi fod yn optimistaidd am bopeth. Ond rydw i'n meddwl, fel rydw i'n dweud, rydw i'n meddwl y gallai pethau waethygu cyn iddyn nhw wella. 

LT: 

 Oes unrhyw beth arall yr hoffech chi siarad amdano? 

AL: 

 O ran safleoedd gwarchodedig, byddai’n dorcalonnus pan fydden ni'n mynd i leoliad ac yn sylwi mai ni oedd yr unigolion cyntaf i fod yno ers deng mlynedd. Mae llawer o weithgarwch o amgylch dynodi SoDdGA, ac yna rydyn ni'n gadael tirfeddianwyr ar eu pennau eu hunain. Ac rydw i'n credu ei bod yn drueni ofnadwy nad yw'r ymweliad gan swyddog CNC yn beth blynyddol. 

O, mae hi'n fis Mehefin. Rydw i'n siŵr y bydd beth bynnag yw ei enw e, neu ei henw hi, o gwmpas yn fuan i edrych ar fy mhlanhigion neu rydw i'n siŵr y byddan nhw o gwmpas i gyfrif fy adar neu edrych ar fy nglöynnod byw neu beth bynnag y bo. Ac rydw i'n dymuno pe bai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fwy, er ei fod, ch’mod, gallech chi ddweud, wel, beth ydych chi wedi'i wneud heddiw? Wel, es i allan i'r SoDdGA hwn, cerddais i o'i gwmpas am hanner awr a ches i sgwrs â pherchennog y tir am hanner awr. Nid yw hynny'n bodloni llawer o ofynion, ond dw i'n meddwl ei fod yn hynod bwysig. 

 Felly dyna'r un peth rydw i'n teimlo, fel y dywedais, rydw i'n teimlo ychydig yn flin dros bobl iau sy'n dod i mewn, a dydyn nhw ddim yn cael eu hanfon allan. Rhywsut mae gennyn ni'r holl dechnoleg hon a rywsut mae gennym ni lai o amser. A wn i ddim sut mae hynny wedi digwydd. Ond na, dyna'r un peth, pe gallwn i newid unrhyw beth o gwbl, byddwn i'n uwch-reolwr. Wnes i erioed gyrraedd lefel uwch o gwbl. Ac na chyrhaeddais i'r lefel uwch erioed oherwydd fy mod i'n rhy hoff o bethau ar lawr gwlad.  

LT: 

 Cael eich hunan yn sownd y tu ôl i'r ddesg neu rywbeth felly. 

AL: 

 Ie, ac roeddwn i'n cwyno wrth fy ngwraig i am hyn ac yn dweud, o, dydw i byth yn cael dyrchafiad. Dywedodd hi, wel, ie, ond beth ddigwyddodd, y broblem yw, hoffech chi gael dyrchafiad ond dal i wneud yr un swydd. Allwch chi ddim cael y ddau beth, ch’mod. Ac yn y pen draw, byddwn i allan ar gopaon Bannau Brycheiniog neu beth bynnag, ac yn eistedd i lawr am ginio ac yn meddwl, ie, rydw i'n meddwl fy mod i'n gwneud yn iawn.

Ond na, mae'n ddrwg gen i, i fynd yn ôl at y pwynt hwnnw, pe bai hynny'n rhywbeth y byddai gen i'r pŵer i'w newid, byddwn i'n uwch-reolwr yn crwydro o gwmpas y swyddfa ym mis Mehefin ac yn mynd ar drywydd swyddogion cadwraeth ac yn gofyn iddyn nhw, pam eich bod chi yma? Pam nad ydych chi allan yn y maes? Hoffwn i ddim eich gweld chi yma. Dewch yn ôl ym mis Medi. Felly dyna beth fyddwn i'n ei wneud, pe gallwn i newid rhywbeth, dyna beth fyddwn i'n ei wneud. 

 

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment