Awyrluniau o Arfordir Bro Morgannwg
Mae’r casgliad hwn yn dangos delweddau o leoliadau amrywiol ar hyd arfordir Môr Hafren y Fro, gan gynnwys: Aberddawan, Fontygari, Monknash, Nash Point, Y Rhws, ac Ynys Sili.
Mae’r casgliad o ddelweddau yn rhan o gasgliad mwy sy’n cynnwys awyrluniau o’r Fro Wledig, Tref y Barri, Dociau’r Barri ac Ynys y Barri, Penarth, Dinas Powys a Llandochau.
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn casgliad o awyrluniau mawr (500mm wrth 400mm yn bennaf) o wahanol leoliadau a mannau o ddiddordeb yn y sir. Daeth y rhodd hon o ffynhonnell anhysbys felly ni ellir priodoli unrhyw ddata hawlfraint.
Ymhellach, nid oes unrhyw arwydd o'r dyddiad y tynnwyd y lluniau, er y gwnaed rhagdybiaethau o wybodaeth leol ynghylch pryd y gallai hyn fod. Yn ogystal â’r delweddau mawr a ddisgrifir uchod, mae delweddau eraill sy’n mesur 250mm wrth 200mm a roddwyd gan hen Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru (y cydnabyddir yr hawlfraint ar eu cyfer) ac mae’r rhain wedi’u dyddio.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment