Skip to main content

Awyrluniau o Ddociau'r Barri ac Ynys y Barri

Mae’r casgliad hwn yn dangos delweddau o leoliadau amrywiol yn ac o amgylch Ynys y Barri a Dociau’r Barri, gan gynnwys: Ystad Fasnachu Iwerydd, ardal Bendricks, ardal Hayes Road, Nells’ Point/Butlins, Rhif 1, Rhif 2, a Dociau Rhif 3, ardal Ysbyty Sili, a Bae Whitmore.

Mae’r casgliad o ddelweddau yn rhan o gasgliad mwy sy’n cynnwys awyrluniau o y Fro Wledig, Dref y Barri, Penarth, Dinas Powys a Llandochau, ac Arfordir Môr Hafren.

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn casgliad o awyrluniau mawr (500mm wrth 400mm yn bennaf) o wahanol leoliadau a mannau o ddiddordeb yn y sir. Daeth y rhodd hon o ffynhonnell anhysbys felly ni ellir priodoli unrhyw ddata hawlfraint. Ymhellach, nid oes unrhyw arwydd o'r dyddiad y tynnwyd y lluniau, er y gwnaed rhagdybiaethau o wybodaeth leol ynghylch pryd y gallai hyn fod.

Yn ogystal â’r delweddau mawr a ddisgrifir uchod, mae delweddau eraill sy’n mesur 250mm wrth 200mm a roddwyd gan hen Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru (y cydnabyddir yr hawlfraint ar eu cyfer) ac mae’r rhain wedi’u dyddio.

Gwelediadau:
229
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
12/05/2025

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment