Skip to main content

Nathaniel Wells (1779-1852)

Ganwyd Nathaniel Wells yn Saint Kitts i'w rieni William a Juggy Wells yn 1779. Daeth William o deulu cyfoethog o Gaerdydd a Juggy oedd ei weithiwr caethiwed. Yn dilyn genedigaeth ei fab, rhyddhaodd William Nathaniel a’i fam.
Pan oedd Nathaniel yn 15 oed, etifeddodd ystâd gyfan ei dad, gan gynnwys y planhigfeydd siwgr a’r gweithiwr caethiwed yn Saint Kitts. Gwariodd y rhan fwyaf o’i arian i brynu Tŷ Piercefield a symudodd i Gymru gyda’i wraig newydd, Harriet Este, yn 1802.
Daeth Nathaniel yn warden eglwys, ynad (math o farnwr), siryf du cyntaf Prydain a rhaglaw yn Iwmoniaeth Swydd Gaerloyw a Threfynwy, yn Ynad Heddwch ac yn aelod o Helfa Cas-gwent.
Roedd angen llawer o waith atgyweirio a datblygu ar Dŷ Piercefield. Gwariodd Nathaniel bob dim o’i gyfoeth. Ceisiodd werthu'r ystad am ddegawdau ond heb unrhyw lwyddiant.
Talodd llywodraeth Prydain iawndal o £1,400 9s 7d i Nathaniel am ryddhau ei 86 o weithwyr caethiwed ar y planhigfeydd siwgr yn 1833.
Bu farw Nathaniel yn 72 oed ar ôl salwch byr.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment