Chwiorydd a brodyr Burton, Pennal (tua 1940au)
Disgrifiadau
Brodyr Ian a Wyn a chwiorydd Morwenna (Wenna) a Nancy Burton o Bennal.
'Ganwyd Ian Burton ar 3 Medi 1915 ym Mhennal, Sir Feirionnydd, yr ail o bedwar o blant Peter Jones Burton (1883-1956), saer maen, a'i wraig Margaret (g. Latham, 1878). Cymraeg oedd ei iaith gyntaf, ac ni siaradai fawr ddim Saesneg yn ei flynyddoedd cynnar. Mynychodd ysgol y pentref, cyn ennill ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Tywyn. Yn dilyn anghydfod gyda'r rheithor ynghylch glanhau'r eglwys, penderfynodd ei fam fynychu capel yr Annibynwyr yn hytrach na'r eglwys, heblaw pan ymwelai ei theulu. 'I must say I hated the long dreary services of the chapel and loved the beauty and mystery of the Church,' meddai Burton.' -- Ruth Gooding
Ffynhonnell:
Gooding, R., (2024). BURTON, IAN HAMILTON (Archimandriad Barnabas) (1915 - 1996), offeiriad Uniongred. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Ion 2025, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c15-BURT-HAM-1915
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment