Skip to main content

Ian Burton (Mai 1947)

Disgrifiadau

'Cwblhaodd ei hyfforddiant ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Diwinyddol Ely, cyn cael ei ordeinio yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Roedd ei guradaeth gyntaf ym Mae Colwyn, lle bu'n gwasanaethu dan y Canon Clement Thomson, Eingl-Gatholig cymedrol. Yn 1940 symudodd i Fwcle yn Sir y Fflint, lle bu'n warden cyrch awyr yn ogystal â'i ddyletswyddau bugeiliol. Ei swyddi nesaf oedd fel Is-ganon yn Eglwys Gadeiriol Bangor ac yna'n gurad yng nghadarnle Eingl-Gatholig eithafol Glandŵr ger Abertawe. Deuai'n fwyfwy ymwybodol o'r gwrthddywediadau wrth hanfod Pabyddiaeth Anglicanaidd, gan deimlo tynfa gyson tuag at fynachaeth. Treuliodd ychydig fisoedd gyda Chymdeithas St Ffransis yn Cerne Abbas, ac wedyn cymerodd nifer o swyddi dros dro fel caplan lleianod.' -- Ruth Gooding

Ffynhonnell:
Gooding, R., (2024). BURTON, IAN HAMILTON (Archimandriad Barnabas) (1915 - 1996), offeiriad Uniongred. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Ion 2025, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c15-BURT-HAM-1915

Owner:
Gabriel Schenk
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
Eitem wedi’i llwytho:
27/1/2025
Gwelediadau:
225
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment