Skip to main content

Ysbyty’r Groes Goch, Parc Howard

Cwta tair blynedd ar ôl agor fel amgueddfa gyhoeddus, cafodd Parc Howard ei droi’n Ysbyty Ategol y Groes Goch a oedd yn cynnig lle tawel i aelodau o’r lluoedd arfog a ffoaduriaid wella o’u clwyfau. Câi ei staffio gan nyrsys y Groes Goch a’r Uned Cymorth Gwirfoddol a’i ariannu gan grantiau’r llywodraeth a rhoddion lleol. Nid oedd gan y mwyafrif o’r cleifion hyn anafiadau marwol. Roedd yn well gan y dynion fod mewn ysbytai ategol nag mewn ysbytai milwrol am sawl rheswm: nid oedd y ddisgyblaeth mor llym, roedd mwy o le ynddynt, ac roeddynt yn fwy cartrefol. Parhaodd yr ysbyty i ddarparu cymorth i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd o 1921 hyd 1924 o dan y Pwyllgor Pensiynau Rhyfel.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Morrigan Mason & Elin Jones. Ar y cyd ag Amgueddfeydd Sir Gâr.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment