Skip to main content

Caerdydd a’r Rhyfel ar y Môr

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd galw mawr gan y Llynges am lo Cymreig, y câi llawer ohono ei allforio o Borthladd Caerdydd. Roedd yn cynhyrchu llai o fwg, a oedd yn ystyriaeth bwysig wrth geisio osgoi’r gelyn.

Fe ddioddefodd llawer o gwmnïau llongau Caerdydd golledion mawr o ganlyniad i ymosodiadau gan longau-U. Roedd gan un o’r cwmnïau mwyaf, Evan Thomas Radcliffe, 28 llong ar ddechrau’r rhyfel. Erbyn y diwedd roedd 20 ohonynt wedi’u suddo.

Awgrymwyd y deyrnged hon gan Amgueddfa Stori Caerdydd. Ar y cyd ag Archifau Morgannwg.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment