Skip to main content

Partneriaeth Ogwen

MENTER GYMDEITHASOL SY’N GWEITHIO ER BUDD ECONOMI, AMGYLCHEDD A CHYMUNEDAU DYFFRYN OGWEN
Fel menter gymunedol rydym yn

-Darparu gwasanaeth clercio i gynghorau cymuned yr ardal
-Datblygu prosiectau adfywio cymunedol, economaidd ac amgylcheddol
-Rheoli eiddo a datblygu prosiectau trosglwyddo asedau cymunedol
-Cefnogi prosiectau sy’n creu cymuned iach, bywiog a chynaladwy
Sefydlwyd Partneriaeth Ogwen yn 2013, a hynny trwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clercio i’r 3 chyngor ac i ddatblygu prosiectau cymunedol.

Ers ein sefydlu, rydym wedi agor Swyddfa Ogwen a Siop Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda, rheoli eiddo yn cynnwys fflatiau, busnesau a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen. Rydym hefyd wedi datblygu prosiectau amgylcheddol llwyddiannus yn cynnwys sefydlu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.

Profile picture for user llechicerfiedig_54651
Dyddiad Ymuno:
10/03/2021

Gweld pob un o’r 24 eitemau