Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen
Sefydlwyd Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen yn 2023, fel rhan o gydweithrediad rhwng Partneriaeth Ogwen a Phartneriaeth Tirwedd y Carneddau.
Wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â ‘Lleisiau Carneddau’, mae Lleisiau Lleol Dyffryn Ogwen yn gasgliad cynyddol o hanes llafar a gasglwyd gan wirfoddolwyr trwy gyfres o gyfweliadau sain a fideo. Mae ein casgliad hefyd yn cynnwys darlithoedd, sgyrsiau a thrafodaethau amrywiol sy'n berthnasol i Ddyffryn Ogwen.
Mae llu o adnoddau ar gael i ddysgu mwy am Ddyffryn Ogwen:
Mae wefan Clwb Hanes Rachub, Caellwyngrydd a Llanllechid yn adnodd wych: clwbhanesrachub.co.uk.
Mae gwefan Hanes Dyffryn Ogwen yn cynnwys cannoedd o erthyglau hanesyddol diddorol yn ymwneud â Dyffryn Ogwen gan yr haneswyr lleol John Ll Williams a Lowri W Williams. https://hanesdyffrynogwen.wordpress.com/.
Mae gwefan Corlannau gan Nigel Beidas hefyd yn adnodd diddorol iawn sy’n rhoi hanes a lluniau o gorlannau defaid y Carneddau: www.cofnodicorlannau.org/corlannaur-carneddau-sheepfolds.
Mae rhifynnau blaenorol Llais Ogwan, y papur bro lleol, ar gael yma: http://www.llaisogwan.com/.
Safle newyddion lleol yw Ogwen360 sydd wedi ei ysgrifennu gan drigolion Dyffryn Ogwen. Ogwen.360.cymru.
Os hoffech fwy o wybodaeth am Leisiau Lleol Dyffryn Ogwen, cysylltwch â [email protected].
Ariennir y prosiect hwn gan arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.