Skip to main content

Hunaniaeth Gymreig, Symbolau a'r Eisteddfod Genedlaethol

Dreigiau, telynau, gwisgoedd a blodau: maent oll yn dweud rhywbeth wrthym am ddatblygiad hunaniaeth Gymreig!

Bu’r symbolau uchod yn gynhwysion allweddol wrth hyrwyddo digwyddiadau o wedd ‘Gymreig’; er enghraifft, yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r sefydliad wedi gwneud defnydd sylweddol o symbolau ‘Cymreig’ yn ei hymgyrchoedd marchnata ar hyd y blynyddoedd.

Daeth pasiantau, symbolau a seremonïau i fod yn elfennau allweddol ym mywydau’r Cymry yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Mae’r fath arferion yn cynrychioli’r ymdrech a fu i arddangos hunaniaeth Gymreig ar adeg pan oedd diwylliannau cynhenid ar draws Ewrop yn pwysleisio eu hynodrwydd.



Hanes yr Eisteddfod Genedlaethol (yn gryno)

Y dechreuad – Yn 1176 cynhaliwyd digwyddiad tebyg i ‘eisteddfod’ gan yr Arglwydd Rhys yng Nghastell Aberteifi. Dyma’r cynulliad cynharaf o’i fath y gallwn ei olrhain. Dwy gystadleuaeth yn unig a gynigwyd, sef un mewn barddoniaeth, a’r llall mewn cerddoriaeth.

Dirywiad sydyn – Cynhaliwyd cynulliadau tebyg yn ystod y bymthegfed ganrif, a’r unfed ganrif ar bymtheg. Bathwyd y term ‘eisteddfod’ yn ystod y cyfnod hwn. Serch hynny, yn ystod teyrnasiad Harri VIII, dirywio gwnaeth y cynulliadau eisteddfodol yng Nghymru.

Adfywiad – Adfywiwyd y traddodiad eisteddfodol gan gymdeithasau Cymry Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Chwaraeodd Iolo Morganwg, dyfeisiwr seremonïau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, rhan allweddol yn yr adfywiad cenedlaethol, wrth iddo gysylltu’r Orsedd â’r sefydliad.

Ffurfioli’r ‘Eisteddfod Genedlaethol’ – Yn Ninbych, ym 1860, etholwyd Cyngor a Phwyllgor Cyffredinol i reoli ‘Yr Eisteddfod’, sefydliad cenedlaethol newydd-anedig. Y flwyddyn ganlynol, yn Aberdâr, cynhaliwyd yr ‘Eisteddfod Genedlaethol’ swyddogol gyntaf.



Symbolau poblogaidd a’u gwreiddiau

Y Ddraig Goch – Un o symbolau mwyaf adnabyddus y Cymry! Credir iddi ymddangos ar faner y Brenin Arthur ac arweinwyr Celtaidd eraill. Mae’r ddraig yn symbol o wreiddiau hynafol y Cymry ac yn cynrychioli galluoedd aruthrol ei rhyfelwyr.

Y Delyn Deires – Fe’i hystyrir fel offeryn cenedlaethol Cymru. Ers canrifoedd, bu’n gyfeiliant i ddarlleniadau barddonol, dawnsio a chanu gwerinol. Mae’r delyn deires yn symbol o dreftadaeth gerddorol a llenyddol Cymru.

Y Wisg Gymreig – Fe ddatblygwyd y wisg i raddau helaeth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y noddwraig diwylliannol Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer.  Mae’r wisg Gymreig yn ei stad sylfaenol yn cynnwys gwasgod wlân goch a het ddu uchel. Yn nhyb Hall, roedd cynnal y fath traddodiad yn fodd o hyrwyddo diwydiannau Cymru, ynghyd ag hunaniaeth Gymreig.

Y Nod Cyfrin – dyfeisiwyd y symbol /|\ gan Iolo Morganwg. Cynrychiolir y rhinweddau: Cariad, Cyfiawnder a Gwirionedd. Defnyddiwyd y symbol yn helaeth ar raglenni’r Eisteddfod er mwyn dynodi presenoldeb yr Orsedd yn y digwyddiad. Yn wreiddiol, credwyd mai cylch Derwyddol hynafol oedd yr Orsedd, ac felly roedd yn fodd o ddyrchafu traddodiad barddol Cymru.



Adfywio Diwylliant Cymreig

Gellir ystyried symbolau o fewn cyd-destun eang – sef yr ymdrech gyffredinol a fu i adfywio diwylliant Cymreig. Roedd y fath symudiad yn edrych tua’r gorffennol am ei ysbrydoliaeth, ac yn annog y Cymry i ymfalchïo yn eu treftadaeth a’u hanes.

Related items

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment