A Walk up Tryfan and the Glyders Range
'Roedd yn ddiwrnod tawel a heulog yng Ngogledd Cymru a 'roedd y 'Met Office' rhagolwg yn ffafrioli cerdded y brynniau ac i ffotograffi, felly gyda 'rucksack. a'r ger fotograffi a'r eitem mwyaf pwysig, flasg o de. Ye, 'roedd genym yr holl anghenion i fynd i fynny i'r mynyddoedd cyn i rhywyn dweyd rhywbeth; map, cwmpas, bocs meddygol, a dillad ag esgyd addas. Oherwydd i ddigwyddiad rhai flynnyddoedd cynt, 'roedd gan Paul ofn uchdwr dychrynllyd a feddyliodd mai trwy wynebu yr ofn 'y gallai cael gwellhad. Felly, i fynny Tryfan a'r Glyderau amdani i'r iechyd, a hefyd, 'roed fy nghamera wedi bod yn llonydd trwy'r wythnos a dymunai rhywfaint o ymarfer. Hefo camera digidol, nid oes angen i tynny 'mond i fynny i 36 o luniau, felly 'rwyf yn dal i tynny lluniau nes mae cof y cerdyn wedi llenwi. Felly yn y stori yma yw fy nghais gyntaf i creu stori i'r PCW/CWC, 'rwyf yn dewis y lluniau sy'n dangos y pwyntiau goreu o'r cerddediad. Y Llun gyntaf yw o'r llety ieuenctid ym Mwthyn Idwal ac yn agos i'r parc moduronlle gadawn y modur am y tro. Hefyd yn agos 'roedd caffi fechan ag ystafell i'r tim Achyb o'r Mynydd Dyffryn Ogwen, tu ol i hwn y caiff hyd i'r llwybr o cerrig bras afreolaidd sy'n arwain y cerddwr i fynny i'r dyffryn cauedig Cwm Idwal. Yn fuan ar ol cychwyn i fynny'r llwybr yma dawn ar draws giat haearn sy'n awgrymy dechraead y Rhes y Glyderau ym Mharc Genedlaethol Eryri. Yn fuan a'r ol hy giat, croeswn bont fach cerig gyda canllaw coed yn croesi'r gofer o Llyn Idwal fel rhaeadr dros cerrig. 'Roedd y llwybr yn parhau i'r cwm ond fel troeodd i'r de, gwelsom hoel llwybr i'r chwith trwy'r ddol yn mynd am llethrau Tryfan. Dilynwn y ffordd yma. Wrth edrych i fynny tua pen y llethr, nid oedd yn edrych yn rhu uchel ac 'roedd yn rhaeadr hir a main arall yn disgyn a fel y cyrhaeddwn i'w pen y gwelsom mai gofer i llyn fach arall oedd, Llyn Bochlwyd, yn wybodus i'r dringwyr a cerddedwyr fel 'Lake Australia' oherwydd ei siap yn edrych fel siap y wlad Awstralia. Yma sylweddolwn er fod y llyn ar tir weddol wastad bod y tis yn codi i fynny i fwlch rhwng Tryfan a'r Glyderau o'r enw Bwlch Tryfan gyda llethr o cerig man trwyddo y pigwn ein ffordd, yn chwysu fe cyrrhaeddwn wal cerrig sych yn ymestyn y bwlch rhwng llethrau'r ddau mynydd. 'Roedd camfa yn gadael inni croesi'r wal. Cawsom egwyl byr i ymarfer y fflasgac ar ol paned sydyn, dechreuwn i'r chwith am i fynny llwybr afreolaidd, yn ymgiprys rhwng a dros creigiau nes cerraedd bron i'r gopa daethwn ar draws darn peryglys lle disgynnodd y llwybr rhyw fil troedfeddi i waelod y Cwm Tryfan isod. Mi fedrwn i ei osgoi, ond gwrthodod Paul yn bendant nai aethai'n bellach. 'Tyrd, 'da'ni bron yna. Fyddi di'n iawn.' 'Na, dos di'n dy flaen. N'ai aros yma iti.' Pan gyrraeddais y gopa ac yn edrych ar y golygfa o'm gwmpas ar draws y Glyderau, i lawr at Nant Ffrancon, ac ar draws y Carneddau i'r gogledd, ag Ynys Mon tu hwnt i'r ruban las o'r Afon Menai. Yn sydyn 'roedd Paul ger fy ochr, cafodd hyd i lwybr saffach i'r gopa. Fe 'roedd grwp fach arall ar y gopa o'n blaenau, ac 'roed un ohonnynt yn geidwad y mynyddoeddi'r grwp. Ar ben Tryfan (mae'r enw yn dwad o'r ffaith bod yna tri gopa neu trifaen). Ar y prif gopa mae yna ddau Faen gyda pennau wastad sydd wedi eu enwi yn 'Adam ac Eve'ac yn traddodiadol mae'r dewr yn dringo ar ben un a neio rhyw pedwar neu bump troedfedd i ben yr ail. Beth mae'r llun yn cyddiad yw'r ffaith bod yna disgynid a rhyw fil troedfeddi i waelod y mynyd dim ond rhyw troedfeddi ar ochr arall i'r meini. Dangosodd y geidwad syt mor hawdd oedd i'w wneud. Oherwydd fod gyna'i teimlad cryf iawn o fodolaeth, mi gwrthwynebais y cymhelliad i neidio'r bwlch. Paned arall ac egwyl fyr, mi tynnais lluniau gyda'r camera ac wedyn dechreuwn mynd i lawr y mynydd yn ol i'r Bwlch Tryfan gyda'r bwriad o mynd yn ol i'r modur. 'Doed Paul ddim eisiau gorffen y ddydd mor sydyn a felly penderfynwn i fynd i fynny i'r Glyderau.Aethom i fynny'r llethr o cerrig man a bras i'r pen lle gwelsom y 'Bristley Ridge', cefn mynydd gyda darnau hir a thennau o greigiau ar pob ogwydd. Tirwedd mwyaf od. Ni fedrwn cerdded ond mwy fel camu o garreg i garreg, gan fod yn ofalus i osgoi y bylchau rhyngddynt rhag ofn troi fer neu torri asgwn. 'rwyf wedi gweld lluniau o'r Glyderau o dan eira ac er eu bod yn apelio i'r ffotograffwyr, mae'n rhaid i diogelwch rheoli'r dymuniad i fynd yno yn y math yna o dywydd. Yn agos mae wynepryd nodweddol o'r Glyderau a elwir y 'Cantilever Rock' a sydd yn poblogaidd gan y cerddwyr sy'n cyrraedd yna. Os fuaswn yn cael punt am bob tro mae rhywyn wedi cael tynny ei lun ar y garreg, fuaswn yn dyn cyfoethog iawn. 'Roedd yn cerdediad weddol fyr i cerded i gopa'r Glyder Fach (3261troedfeddi neu 994metre). Nid oed mwy nag ychydig troedfeddi yn uwch na'r llwyfandir 'roeddym arno. Ar ol y gostyngiad yna, 'roeddwn yn craff i weld y wynepryd nesaf o'r enw Castell-y-Gwynt rwng y ddau gopa ar y Glyderau, lle byddai'r gwynt yn codi cyflymdra fel y chwythai dros Eryri. 'Roedd y wynepryd yma wedi ei wneud allan o creigiau darnau greigiau yn ymwthio allan yn fertig ac yn atgoffa mi o'r ffilm gyntaf o 'Superman' a'i gaer o rhew. Fel oeddwn yn disgwyl i rhyw ddringwr arall fynd i gopa'r Castell-y-Gwynt. Yn lle ei ddilyn, 'roeddwn yn digon hapus i ddim ond tynnu llun. I fynny ac ymlaen i gorfygu gopa'r Glyder Fawr, ond 'roedd yn fwy siomedig na'r un Fach am fod y tir yn codi mymryn i pigyn fach. Gwelsom disgyniad y llethr cerrig man a fu'r rhan mwyaf annodd or cerddediad i gyd, oherwydd fod y tir y llethr yn cerrig man a'r un fath a disgyn i lawr ar marblis plant. 'Rwyn cyfaddau i cael hyd i fy hun yn disgyn mwy nag unwaith yn eistedd, on pan cyrraeddwn y gwaelod, cafwn ein wobrwyo gyda llyn bach tlws o'r enw Llyn Cwn,a ac ar diwrnod cynnes fel yr oedd, yr oedd yn ormod o temtasiwn i Paultynnu ei esgidiau a'i sannau i fynd i padlo yn y dwr rhewllyd. Ar ol imi gael fy ngwynt yn ol a gorffen y dwythaf o'r te o'r fflasg a'r bwyd. Ar ol rhyw ugain munud aethom ar hyd y llwybr i disgyn i lawr y grisiau cerrig bras a garw i lawr i Cwm Idwal, heibio Gegin y Diafol. Hollt fawr rhwng y creigiau yw'r Gegin ar ben y dyffryn cauedig yma. a phan mae'r gwynt yn chwythu i fynnu'r dyffryn mae'r gwynt yn cael ei wasgu trwy'r hollt ag yn creu cymylau sy'n edrych fel stem neu mwg yn codi o thu ol i'r hollt yn edrych fel bod y Diafol yn coginio, felly yr enw. felly, cerddwn yn ddistaw heibio'r gegin, i lawr i llawr y cwmyn cymeryd i fewn y golygfeudd hardd o Llyn Idwal, nant Ffrancongyda Bethesda yn y cefndir a Sir Fon hefyd, gyda mynnydd Pen-yr-Ole-Wen o'm blaenau. 'Roedd bron yn cerddediad wastad i pen draw y cwm lle cerddwn i lawr y llwybr carregog garw, yn mynd heibio pwynt lle gadawon y llwybr i ddechrau am Tryfan yn gynnarach ac wedyn i lawr i'r car a gartref.
More stories with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment