Skip to main content

Casgliad o weithiau celfyddydol yn ymwneud â mynyddoedd Eryri gan Catrin Menai, 2025

Mae’r eitemau hyn yn cynrychioli gwaith yr artist Catrin Menai, y dyfarnwyd prosiect preswyliad Tl.M.E (Tlysau Mynydd Eryri) iddi, yn Eryri gyda Plantlife. Ceisiodd y prosiect dynnu sylw at rywogaethau alpaidd fel trysorau enigmatig, ac archwilio’r berthynas rhwng y mynyddoedd, eu rhywogaethau, a’r cymunedau amrywiol sy’n byw ynddynt neu yn eu golwg.

Gan ganolbwyntio’n benodol ar chwilen yr Wyddfa, archwiliodd Catrin wahanol ffurfiau o gydweithio a chyfieithu, gan arbrofi â sut y gellid rhannu gwybodaeth â’r gymuned a thrwyddi. Drwy’r chwilod, cawn ein gwahodd i weld gwybodaeth nid mor sefydlog, ond wedi’i phlygu a’i hail-lunio gan bob persbectif newydd. Yn raddol, drwy ei hymarfer, mae lleisiau’r gymuned yn dechrau ffurfio ecosystem –  mynydd o feddwl a rennir. Yma rydym yn cael ein gwahodd i ystyried pa mor bell y gall y meddwl deithio, a beth sy’n newid pan fydd gwybodaeth yn trosglwyddo rhwng unigolion – ar draws cyrff ac ar draws tirweddau.

Am yr artist: Mae Catrin Menai yn artist amlddisgyblaethol o Bethesda, Gogledd Cymru, y mae ei hymarfer wedi’i wreiddio mewn cydweithio, gan weithio’n aml ochr yn ochr ag ecolegwyr ac ymarferwyr o feysydd eraill. Mae hi’n creu gweithiau sy’n cael eu symbylu gan naratif sy’n archwilio potensial cyfathrebol gwrthrychau, ystumiau a lleoedd bob dydd – yn cydosod darnau barddonol, gohebiaeth, a deunydd archifol yn alwad ac ymateb rhwng ieithoedd, cyfnodau a daearyddiaethau.

Comisiynwyd y gwaith hwn fel rhan o brosiect Natur Am Byth! gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment