Yr Holocost a Chymru - Podlediad
Yr Holocost a Chymru
Podlediad newydd yw Yr Holocost a Chymru sy'n archwilio effaith yr Holocost ar Gymru. Roedd yr Holocost yn un o’r digwyddiadau a ddiffiniodd yr ugeinfed ganrif, ac fe deimlwyd ei effaith ar draws y byd, gan gynnwys yng Nghymru. Fe wnaeth ffoaduriaid o Ganol Ewrop ffoi i Gymru i geisio lloches, fel y gwnaeth goroeswyr yr Holocost a oedd yn ceisio ailadeiladu eu bywydau yn y blynyddoedd wedi hynny. Roedd milwyr a nyrsys o Gymru ymhlith y cyntaf i weld erchyllterau’r gwersylloedd Natsïaidd pan gawson nhw eu rhyddhau ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Yn y podlediad hwn, byddwn yn edrych ar straeon y rhai a oedd wedi ffoi rhag gormes y Natsïaid i greu bywydau gwell iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd, a chlywed hanes yr anwyliaid y bu’n rhaid iddyn nhw eu gadael ar ôl. Byddwn yn dysgu sut maen nhw wedi cyfrannu at fywyd yng Nghymru – yn ddiwylliannol, yn economaidd ac yn wleidyddol. Nid dim ond rhywbeth a ddigwyddodd i bobl eraill yn rhywle arall ac mewn cyfnod arall yw’r Holocost - mae'n rhan o'n hanes ni i gyd.
Crëwyd y podlediad fel rhan o Adnoddau Holocost Cymru, prosiect rhwng y Ganolfan Astudio Symud Pobl (CASP) ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC), dan nawdd y Gymdeithas Ffoaduriaid Iddewig (AJR). Byddwch yn clywed lleisiau goroeswyr, neu eu plant, a recordiwyd fel rhan o gyfweliadau hanes llafar a gynhaliwyd gan CASP, y CHIDC, ag Amgueddfa Ryfel Ymerodrol.Gellir ei ddefnyddio i ategu dysgu am yr Holocost mewn ysgolion ar Gam Cynnydd 4 a thu hwnt.
I gael gafael ar ein hadnoddau addysgiadol am yr Holocost a Chymru, sy’n addas ar gyfer Camau Cynnydd 3 a 4, ewch i https://www.casgliadywerin.cymru/learn/query/holocaust
Gallwch hefyd wrando ar y podlediad ar Spotify https://open.spotify.com/show/4QdFJmSumrAzaCHTZE6b8H
Cyflwyniad
Mae’r trelar yma’n cyflwyno’r podlediad ac yn archwilio sut rydyn ni’n meddwl am yr Holocost a’i berthynas â Chymru. Crëwyd y podlediad fel rhan o Adnoddau Holocost Cymru, prosiect rhwng y Ganolfan Astudio Symud Pobl (CASP) ym Mhrifysgol Aberystwyth a Chymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (CHIDC), dan nawdd y Gymdeithas Ffoaduriaid Iddewig (AJR).
Pennod 1: Bywyd yn Ewrop cyn y Rhyfel
Yn y bennod gyntaf hon, byddwn yn edrych ar fywyd Iddewon yng Nghanol Ewrop cyn yr Ail Ryfel Byd. Byddwn yn clywed straeon y ffoaduriaid a ddaeth i Gymru yn y 1930au. Sut fywyd oedd ganddyn nhw cyn gadael? Sut newidiodd hyn dros gyfnod o ddegawd? A beth oedd y sbardun – yr arwydd eu bod mewn perygl – a’u hysgogodd i ffoi?
Pennod 2: Gadael Cartref
Yn yr ail bennod hon, rydym yn edrych ar deithiau peryglus y ffoaduriaid er mwyn cyrraedd Cymru. Sut wnaethon nhw adael Canol Ewrop? Pa rwystrau oedden nhw'n eu hwynebu? A sut oedd eu taith i fyd cwbl anghyfarwydd?
Pennod 3: Bywyd yng Nghymru yn ystod y Rhyfel
Yn y drydedd bennod hon, rydym yn edrych ar sut y gwnaeth ffoaduriaid addasu i'w bywydau newydd yng Nghymru. Sut groeso a gawson nhw gan y gymuned leol? Pa heriau oedd yn eu hwynebu a pha gyfleoedd oedd ar gael iddyn nhw? A sut newidiodd eu statws wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen?
Pennod 4: Rhyddid a Cholled
Yn y bennod olaf hon, rydyn ni’n edrych ar straeon am ryddhau, a cholled. Rydyn ni'n clywed sut daeth ffoaduriaid Iddewig i Gymru i hyfforddi wrth iddyn nhw baratoi i ryddhau Cyfandir Ewrop. Rydyn ni’n gwrando ar filwyr o Gymru a oedd yn dyst i erchyllterau'r gwersylloedd crynhoi. Ac rydym yn dysgu am oroeswyr a lwyddodd i fyw trwy un o’r cyfnodau tywyllaf yn hanes y ddynoliaeth ac yn y pen draw yn dod o hyd i gartref yng Nghymru.
RHYBUDD AM GYNNWYS – yn cynnwys disgrifiadau o wersylloedd marwolaeth a gwersylloedd crynhoi a allai beri gofid i rai gwrandawyr.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment